Demograffeg Botswana

Yn ôl Adran Materion Economaidd a Chymdeithasol y Cenhedloedd Unedig, roedd poblogaeth Botswana tua 2,007,000 yn 2010 gyda dwysedd poblogaeth o 3/km².[1]

Graff sy'n dangos y twf mewn poblogaeth Botswana (echelin-Y, mewn miloedd) rhwng 1961 a 2008.

Ethnigrwydd golygu

Mae tua 79% o'r boblogaeth yn Tswana, 11% yn Kalanga, 3% yn Basarwa (Llwynwyr), ac mae'r gweddill yn cynnwys Kgalagadi a Botswanaid Gwynion.[2]

Ieithoedd golygu

Yn ôl cyfrifiad 2001, mae 78.2% yn siarad yr iaith Tswana, 7.9% yn medru'r Kalanga, 2.8% yn medru'r Sekgalagadi, 2.1% yn siaradwyr Saesneg, 8.6% yn siarad iaith arall, a 0.4% heb ddynodi eu hiaith.[2]

Crefydd golygu

Yn ôl cyfrifiad 2001 mae 71.6% o'r boblogaeth yn Gristnogion, 6% yn Badimo, 1.4% yn ddilynwyr crefydd arall, 0.4% heb ddynodi eu crefydd, a 20.6% heb grefydd.[2]

HIV/AIDS golygu

Mae gan Fotswana cyfradd uchel o HIV/AIDS. Amcangyfrifir bod 320,000 o bobl (24.8% o oedolion) yn byw gydag HIV/AIDS yn 2009, a bod 5,800 o farwolaethau o ganlyniad i AIDS y flwyddyn honno.[2]

Cyfeiriadau golygu

 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:
  1. (Saesneg) Botswana. Y Cenhedloedd Unedig. Adalwyd ar 5 Mehefin 2013.
  2. 2.0 2.1 2.2 2.3 (Saesneg) Botswana. The World Factbook. CIA. Adalwyd ar 5 Mehefin 2013.
  Eginyn erthygl sydd uchod am Fotswana. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.