Demograffeg Gweriniaeth Sosialaidd Iwgoslafia
Mae'r erthygl hon yn sôn am ddemograffeg, y Weriniaeth Sosialaidd Ffederal Iwgoslafia yn ystod ei bodolaeth o 1945 tan 1991. Gyda diddymiad y wladwriaeth, mae gan cenhedloedd canlynol nawr eu hastudiaethau demograffeg eu hunain:
- Demograffeg Bosnia a Herzegovina
- Demograffeg Croatia
- Demograffeg Macedonia
- Demograffeg Montenegro
- Demograffeg Serbia
- Demograffeg Slofenia
Ar gyfer demograffeg yr hen Ddeyrnas o Iwgoslafia (1918-1945), gweler y Deyrnas o Iwgoslafia#Demograffeg.
Grwpiau ethnig
golyguMae data hyn o'r ddwy gyfrifiad Iwgoslafaidd (1971 a 1981). Mae'r grwpiau ethnig sy'n cael eu hystyried i fod yn gyfansoddol (a grybwyllir yn benodol yn y cyfansoddiad, ac ni ystyrir yn leiafrifol neu'n fewnfudwyr) yn ymddangos mewn testun trwm.
Cenedlaetholdeb | 1971 | % | 1981 | % |
---|---|---|---|---|
Serbiaid | 8,143,246 | 39.7% | 8,136,578 | 36.3% |
Croatiaid | 4,526,782 | 22.1% | 4,428,135 | 19.7% |
Moslemiaid (cenedlaetholdeb) | 1,729,932 | 8.4% | 2,000,034 | 8.9% |
Slofeniaid | 1,678,032 | 8.2% | 1,753,605 | 7.8% |
Albaniaid | 1,309,523 | 6.4% | 1,731,252 | 7.7% |
Macedoniaid | 1,194,784 | 5.8% | 1,341,420 | 6.0% |
Iwgoslafiaid | 273,077 | 1.3% | 1,216,463 | 5.4% |
Montenegriaiad | 508,843 | 2.5% | 577,298 | 2.6% |
Hwngariaid | 477,374 | 2.3% | 426,865 | 1.9% |
Romani | 78,485 | 0.4% | 148,604 | 0.7% |
Twrciaid | 127,920 | 0.6% | 101,328 | 0.5% |
Slofaciaid | 83,656 | 0.4% | 80,300 | 0.4% |
Rwmaniaid | 58,570 | 0.3% | 54,721 | 0.2% |
Bwlgariaid | 58,627 | 0.3% | 36,642 | 0.2% |
Vlachiaid | 21,990 | 0.1% | 32,071 | 0.1% |
Rutheniaid | 24,640 | 0.1% | 23,320 | 0.1% |
Tsieciaid | 24,620 | 0.1% | 19,609 | 0.1% |
Eidalwyr | 21,791 | 0.1% | 15,116 | 0.1% |
Wcraniaid | 13,972 | 0.1% | 12,716 | 0.1% |
Almaenwyr | 12,875 | 0.1% | ? | ? |
Rwsiaid | 7,427 | ? | ? | |
Iddewon | 4,811 | ? | ? | |
Pwyliaid | 4,033 | ? | ? | |
Groegiaid | 1,564 | ? | ? | |
eraill/ dim penodol | 136,398 | 0.6% | 302,254 | 1.5% |
cyfanswm | 20,522,972 | 100.0% | 22,438,331 | 100.00% |
Gweriniaethau yn ôl y boblogaeth
golyguY boblogaeth yn ôl data o gyfrifiad 1991 ac o amcangyfir cyfrifiad 2017.
a cyfrifiad 2011
b yn cynnwys Serbia a Vojvodina ond nid Kosovo
c cyfrifiad 2013
Gweriniaethau o ran arwynebedd
golyguGweriniaethau yn ôl dwysedd poblogaeth
golyguHanes lleiafrifoedd cenedlaethol yn GFfS Iwgoslafia
golyguYn y 1940au a'r 1950au
golyguCydnabyddodd y GSFfI "gwledydd" (narodi) a "chenhedloedd" (narodnosti) ar wahân; y blaenorol yn cynnwys etholwr y bobloedd Slafeg, tra bod yr olaf yn cynnwys Slafeg eraill ac nad oeddynt yn grwpiau ethnig Slafeg o'r fath fel y Bwlgariaid a Slofaciaid (Slafeg); a Hwngariaid ac Albaniaid (non-Slafeg). Roedd tua 26 o grwpiau ethnig yn hysbys i fyw yn Iwgoslafia, gan gynnwys pobl Romani a darddai tu allan i Ewrop.
I'r mwyafrif Slafeg, fe brofai pedwar lleiafrif cenedlaethol di-Slafaidd - yr Hwngariaid, Almaenwyr, Albaniaid a'r Eidalwyr - i fod yn drafferthus eisioes, yn yr Iwgoslafia gyntaf.[1] Roedd addysg mewn Hwngareg yn gyfyngedig, ac fe waharddwyd nifer o gymdeithasau diwylliannol Hwngareg ac Almaeneg yn Neyrnas Iwgoslafia hyd at ddiwedd y 1930au, pan fu i Iwgoslafia ymdroi tuag at safiad o blaid Pwerau'r Echel. Serch hynny, fe fu i Almaenwyr lleol gydweithio gyda lluoedd y Natsïaid yn ystod yr Ail Ryfel Byd, tra bu i'r Hwngariaid ethnig yn gyffredinol groesawu'r dychwelyd o Backa i Hwngari. Roedd Mudiad Bleidiol Gomiwnyddol Iwgoslafia yn amhoblogaidd ymhlith rhai grwpiau lleiafrifol, gyda Uned Almaenig Ernst Thälmann yn bodoli yn unig ar bapur ac Uned Hwngareg Petőfi yn rhifo cant o aelodau'n unig. Yn dilyn ymadawiad drwy rym y fyddin oresgynnolallan o Iwgoslafia, fe fu i'r Almaenwyr, Hwngariaid ac Eidalwyr gael eu trin yn difrifol gan y partisaniaid buddugol.
Bu i'r mwyafrif helaeth o Almaenwyr yn gael eu diarddel neu fe fu iddynt ffoi, gan ofni dial. Yn yr un modd, bu i rhwng 200,000 a 250,000 o Eidalwyr gael eu diarddel neu ffoi mewn taleithiau newydd a gafwyd eu atodi o wledydd cyfagos megis Istria a Rijeka, yn ogystal â Dalmatia. Cafwyd cannoedd (nifer o filoedd, yn ôl rhai amcangyfrifon) eu lladd yn ddianod yn y broses. I raddau llawer llai, tynged tebyg oedd profiad yr Hwngariaid, a ddaeth i dioddef gormes ethnig yn Vojvodina. Fodd bynnag, ar ôl y rhyfel, gwarantwyd addysg rhad ac am ddim yn eu hieithoedd lleiafrifol eu hunain gan y cyfansoddiad Gomiwnyddol.
Yn ystod amser hollt Tito-Stalin, roedd llawer o Hwngariaid yn cydymdeimlo tuag at Weriniaeth Hwngareg y Bobl (a oedd, yn 1953 yn cynnwys tua 25% o boblogaeth Vojvodina[2]), ac fu i eiriau Radio Budapest ymledaenu ymysg y pentrefi.
Yn y 1950au, adroddwyd fod y Bwlgariaid yn leiafrif tlawd a hen ffasiwn, mewn cyferbyniad i'r Tsieciaid a'r Slofaciaid a oedd yn "leiafrifoedd diywdiannol a gwerthfawr" i Iwgoslafia. Ymfudo fu hanes llawer yn dilyn y rhyfel, gyda rhai'n dychwelyd yn dilyn llwyddiant y comiwnyddion i ddod i rym yn Tsiecoslofacia yn 1948.[3]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Yugoslavia's National Minorities under Communism by Paul Shoup In: Slavic Review, Vol. 22, No. 1 (Mar., 1963), pp. 64-81
- ↑ Yugoslavia's National Minorities under Communism by Paul Shoup In: Slavic Review, Vol. 22, No. 1 (Mar., 1963), pp. 76
- ↑ Yugoslavia's National Minorities under Communism by Paul Shoup In: Slavic Review, Vol. 22, No. 1 (Mar., 1963), p. 80