Paffiwr o Gymru oedd Dennis Powell (12 Rhagfyr 1924 - 27 Mai 1993) a flodeuodd fel bocsiwr rhwng 1946 a 1954. Roedd yn enedigol o Landdewi Ysgyryd, Sir Fynwy. Ym 1949 roedd yn bencampwr 'ardal' pwysau ysgafn a thrwm a pharhaoedd yn bencampwr pwysau trwm hyd nes y cafodd ei drechu gan Tommy Farr ym 1951. Parhaodd yn bencampwr pwysau ysgafn drwy gydol ei yrfa. Ym 1953 curodd George Walker gan ddod yn bencampwr Prydain yng ngornest pwysau trwm-ysgafn (light heavyweight).

Dennis Powell
Ganwyd12 Rhagfyr 1924 Edit this on Wikidata
Llanddewi Ysgyryd Edit this on Wikidata
Bu farw27 Mai 1993 Edit this on Wikidata
Llanddewi Ysgyryd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethpaffiwr Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Gwlad chwaraeonCymru Edit this on Wikidata
Powell ar y dde yn paffio Mel Brown ym 1950.

Mae'r cofnod cyntaf ohono'n paffio'n mynd yn ôl i 1946 pan gychwynodd bocsio'n broffesiynol: gornest oedd hon yn erbyn y Gwyddel Tommy Smythe ar 17 Rhagfyr 1946.[1] Ymladdodd bedair gwaith y flwyddyn ddilynol, yn ardaloedd Lerpwl a Chanolbarth Lloegr, er gwaetha'r ffaith ei fod y pryd hwn yn byw yn Four Crosses, Powys.[2]

Ym 1953 ymddeolodd Randolph Turpin a dewisiwyd Powell a Walker i ymladd am y belt pwysau trwm-ysgafn. Ar 25 Mawrth 1953 daeth y ddau ynghŷd yn 'Y Stadiwm', Lerpwl. Ataliwyd yr ornest ar ôl 11 rownd (allan o 15) a dyfarnwyd Powell yn fuddugol. Yn dilyn anafiadau difrifol, dim ond dwywaith-dair y paffiodd Walker wedi hynny. Cafodd Powell ugain pwyth yn ei lygaid a'i wyneb ac yn ôl papur yr Observer, "(he was) never quite the same man again".[2][3][4] Wedi dim ond 7 mis yn y teitl, cafodd ei herio gan Alex Buxton. Collodd Powell am resymau technegol yn y 10fed rownd. Paffiodd ddwywaith yn unig wedi hynny, gyda'i ornest olaf yn erbyn Polly Smith yng Ngorffennaf 1954.

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Dennis Powell (Four Crosses)" (PDF). boxinghistory.org.uk. Cyrchwyd 19 Hydref 2013.
  2. 2.0 2.1 Bond, James. "Dennis Powell - a true champion". bbc.co.uk. Cyrchwyd 19Hydref 2013.
  3. Cope, Nigel (25 Hydref 1994). "Old pro beats the count once more". independent.co.uk. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-12-14. Cyrchwyd 19 Hydref 2013.
  4. Morton, James (2012). Gangland Bosses: The Lives of Jack Spot and Billy Hill. Hachette UK. ISBN 9781405515610.