Llanddewi Ysgyryd

pentref yn Sir Fynwy

Pentref a phlwyf eglwysig yng nghymuned Llandeilo Bertholau, Sir Fynwy, Cymru, yw Llanddewi Ysgyryd[1] (Saesneg: Llanddewi Skirrid).[2] Saif yng ngogledd y sir tua 2 filltir i'r gogledd-ddwyrain o'r Fenni.

Llanddewi Ysgyryd
Neuadd y Pentref, Llanddewi Ysgyryd.
Mathpentrefan Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Fynwy Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.8478°N 2.9586°W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auPeter Fox (Ceidwadwyr)
AS/auDavid Davies (Ceidwadwr)
Map

Enwir y pentref ar ôl eglwys y plwyf, a gysegrir i Ddewi Sant. Cyfeiria 'Ysgyryd' at fryn Ysgyryd Fawr (486 metr - 1596 troedfedd), sy'n codi i'r gogledd. Mae'r bryn a'r ardal yn gorwedd o fewn ffin Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Peter Fox (Ceidwadwyr)[3] ac yn Senedd y DU gan David Davies (Ceidwadwr).[4]

Enwogion o'r ardal golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 21 Rhagfyr 2021
  3. "Gwefan Senedd Cymru". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-11-10. Cyrchwyd 2021-12-21.
  4. Gwefan Senedd y DU
  Eginyn erthygl sydd uchod am Sir Fynwy. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato