Denzil Davies
Gwleidydd o Gymro oedd David John Denzil Davies (9 Hydref 1938 – 10 Hydref 2018) a fu'n Aelod Seneddol dros etholaeth Llanelli o 1970 hyd 2005.[1]
Denzil Davies | |
---|---|
Ganwyd | David John Denzil Davies 9 Hydref 1938 Caerfyrddin |
Bu farw | 10 Hydref 2018 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd |
Swydd | Ysgrifennydd Gwladol Cysgodol dros Amddiffyn, Ysgrifennydd Gwladol Cysgodol Cymru, aelod o Gyfrin Gyngor y Deyrnas Unedig, Aelod o 53ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 52ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 51ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 50fed Llywodraeth y DU, Aelod o 49fed Llywodraeth y DU, Aelod o 48fed Llywodraeth y DU, Aelod o 47fed Llywodraeth y DU, Aelod o 46ed Llywodraeth y DU, Aelod o 45ed Llywodraeth y DU |
Cyflogwr | |
Plaid Wleidyddol | y Blaid Lafur |
Gyrfa
golyguFe'i ganwyd yng Nghynwyl Elfed, Sir Gaerfyrddin, a chafodd ei addysg yn ysgol gynradd Cynwyl Elfed, Ysgol Ramadeg y Frenhines Elizabeth, Caerfyrddin, a chafodd radd dosbarth cyntaf yn y gyfraith ym Mhrifysgol Rhydychen yn 1962. Galwyd ef i'r bar yn 1965.
Dilynodd Jim Griffiths yn aelod seneddol dros Lanelli yn etholiad cyffredinol 1970. Gwasanaethodd fel gweinidog gwladol yn y trysorlys o 1975 tan 1979. Bu'n Ysgrifennydd Cysgodol i Gymru o 1983 i 1984, ac yn Ysgrifennydd Amddiffyn Cysgodol ac yn aelod o'r Cabinet Cysgodol o 1985 - 89. Yn 1989 ymddiswyddodd yn oriau mân y bore yn dilyn anghytundeb difrifol â Neil Kinnock.
Roedd yn gefnogol iawn i ddatganoli yn 1979 a cyd-sefydlodd Ymgyrch Dros Gynulliad i Gymru (y Mudiad Senedd i Gymru'n ddiweddarach) yn ystod streic y glowyr. Erbyn 1997 roedd wedi treulio amser hir fel Aelod Seneddol. Yn ôl y gohebydd gwleidyddol Vaughan Roderick roedd hynny wedi codi ei amheuon ynghylch Ewrop a'r setliad datganoli a nid oedd yn amlwg yn ymgyrch refferendwm datganoli 1997.[2] Ymddeolodd o'r senedd yn 2005.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Cyn-AS Llanelli Denzil Davies wedi marw yn 80 oed , BBC Cymru Fyw, 10 Hydref 2018.
- ↑ Denzil. BBC Cymru Fyw (11 Hydref 2018).
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: Jim Griffiths |
Aelod Seneddol dros Lanelli 1970 – 2005 |
Olynydd: Nia Griffith |