Neil Kinnock
Mae Neil Gordon Kinnock (ganwyd 28 Mawrth 1942 yn Nhredegar), yn wleidydd o Gymro, arweinydd y Blaid Lafur 1983-1992. Roedd'n briod â Glenys Kinnock.
Neil Kinnock | |
---|---|
Llais | Press conference by Neil Kinnock on the update of the EC administrative reform process.ogg |
Ganwyd | 28 Mawrth 1942 Tredegar |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | gwleidydd |
Swydd | Vice-President of the European Commission, European Commissioner for Transport, Arweinydd yr Wrthblaid, Arweinydd y Blaid Lafur, Shadow Secretary of State for Education, aelod o Gyfrin Gyngor y Deyrnas Unedig, Aelod o 51ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 50fed Llywodraeth y DU, Aelod o 49fed Llywodraeth y DU, Aelod o 48fed Llywodraeth y DU, Aelod o 47fed Llywodraeth y DU, Aelod o 46ed Llywodraeth y DU, Aelod o 45ed Llywodraeth y DU, aelod o Dŷ'r Arglwyddi |
Cyflogwr | |
Plaid Wleidyddol | y Blaid Lafur |
Priod | Glenys Kinnock |
Plant | Stephen Kinnock, Rachel Kinnock |
Gyrfa
golyguRoedd yn un o'r prif ymgyrchwyr yn erbyn polisi'r Blaid Lafur adeg refferendwm 1979 i gael Cynulliad i Gymru. Fel prif arweinydd y "Gang o Chwech", gyda'r ASau Llafur Cymreig Leo Abse, Ifor Davies, Donald Anderson, Alfred Evans a Ioan Evans, chwaraeodd ran amlwg iawn yn yr ymgyrch dros bleidlais nacaol a'r canlyniad fu i nifer o bleidleiswyr Llafur naill ai beidio â phleidleisio neu bleidleisio yn erbyn cael Cynulliad.
Bu Kinnock yn wrthwynebus i'r iaith Gymraeg ar hyd ei yrfa. Cyhuddodd un o ysgolion Gwynedd o rwystro plentyn rhag mynd i'r toiled am nad oedd yn gallu gofyn yn y Gymraeg. Dangosodd ymchwiliad bod y cyhuddiad yn gwbwl ddi-sail. Cred llawer ei fod wedi bradychu'r glowyr yn ystod Streic Fawr y Glowyr (1984-5) a arweiniodd at danseilio'r diwydiant glo, gan chwalu nifer fawr o gymunedau.
Er gwaethaf ymrwymiad Kinnock i'r wladwriaeth Brydeinig a'i wrthwynebiad ffyrnig i unrhyw fath o genedlaetholdeb Cymreig, pan oedd yn arweinydd ei blaid cafodd ei ddilorni'n gyson gan y wasg yn Lloegr am ei fod yn Gymro. Y disgrifiad enwocaf ohono gan y wasg tabloid oedd "Welsh windbag".
Roedd yn is-arlywydd Comisiwn Prodi yn Senedd Ewrop o 1999 hyd 2004. Fe'i hadnabyddir bellach fel 'Baron Kinnock' ac mae ganddo sedd yn Nhŷ'r Arglwyddi yn Llundain.
Mae'n Llywydd Prifysgol Caerdydd.
Cyfeiriadau
golyguSenedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: Harold Finch |
Aelod Seneddol dros Fedwellte 1970 – 1983 |
Olynydd: dilewyd yr etholaeth |
Rhagflaenydd: etholaeth newydd |
Aelod Seneddol dros Islwyn 1983 – 1995 |
Olynydd: Don Touhig |