Gwleidydd Seisnig a chyn-Aelod Seneddol ar gyfer etholaeth Hen Bexley a Sidcup ydy Derek Leslie Conway TD (ganed 15 Chwefror 1953). Bu'n destun dadl ym mis Ionawr 2008, pan ddaeth i'r amlwg ei fod wedi cyflogi ei fab a oedd yn fyfyriwr llawn-amser ym Mhrifysgol Newcastle, fel ymchwilydd gwleidyddol gydag arian cyhoeddus yn ei dalu. Fodd bynnag, dywedodd pwyllgor safonau Tŷ'r Cyffredin nad oedd unrhyw gofnod i'w fab wneud unrhyw waith yn San Steffan.[1] Ar 29 Ionawr, cymrodd David Cameron, arweinydd y Blaid Geidwadol y chwip wrth Conway, ac o wneud hynny ei wahardd o grŵp Seneddol y Ceidwadwyr.

Derek Conway
Ganwyd15 Chwefror 1953 Edit this on Wikidata
Newcastle upon Tyne Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Northumbria Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddAelod o 54ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 54ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 53ain Senedd y Deyrnas Unedig, Vice-Chamberlain of the Household, Aelod o 51ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 50fed Llywodraeth y DU, Aelod o 49fed Llywodraeth y DU Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddoly Blaid Geidwadol Edit this on Wikidata
PlantHenry Conway Edit this on Wikidata

Ar 30 Ionawr 2008 cyhoeddodd Conway na fyddai'n sefyll fel AS ar gyfer Hen Bexley a Sidcup, yn yr etholiad cyffredinol nesaf. Nid yw wedi dweud y bydd yn ymddiswyddo, er iddo gael ei feirniadu cryn dipyn gan y wasg am gamddefnyddio arian.[2] Ar hyn o bryd caiff ei gyflogi fel cyflwynydd Epilogue (cyfres deledu), rhaglen adolygu llyfrau ar Press TV, sianel deledu Saesneg rhyngwladol a ariennir gan Lywodraeth Iran.[3]

Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
etholaeth newydd
Aelod Seneddol dros Yr Amwythig ac Atcham
19831997
Olynydd:
Paul Marsden
Rhagflaenydd:
Edward Heath
Aelod Seneddol dros Hen Bexley a Sidcup
20012010
Olynydd:
James Brokenshire

Cyfeiriadau golygu

  1. 'I'm no crook,' says suspended MP. BBC News. 3 Chwefror 2008
  2.  Derek Conway: What were you thinking?. Telegraph (2008-01-31).
  3. *Epilogue, Press TV "Review of 'A Suitable Enemy' with Derek Conway", 2010.