Sianel deledu newyddion rhyngwladol 24 awr sy'n darlledu yn Saesneg gyda'i phencadlys yn Tehran, prifddinas Iran, yw Press TV. Mae'n cael ei gyllido gan lywodraeth Iran ond mae ganddo safbwynt golygyddol annibynnol. Gyda 26 newyddiadurwr rhyngwladol o staff o dros 400 o gwmpas y byd, mae amcanion y sianel yn cynnwys "torri'r monopoli ar newyddion rhyngwladol gan ddarlledwyr gorllewinol a phontio gwahaniaethau diwylliannol mewn ffordd ymarferol". Sefydlwyd y sianel ar 2il Gorffennaf 2007. Mae'n darlledu ar sawl rhwydwaith teledu lloeren, yn cynnwys Sky (sianel 515). Prif gynnwys y sianel yw rhaglenni newyddion 24 awr y dydd. Yn ogystal, mae'n darlledu rhaglenni trafod ar faterion cyfoes a rhai rhaglenni dogfen.

Press TV
Enghraifft o'r canlynolgorsaf deledu, sianel deledu thematig, news broadcasting Edit this on Wikidata
IaithSaesneg, Ffrangeg Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu8 Gorffennaf 2007 Edit this on Wikidata
PerchennogIslamic Republic of Iran Broadcasting Edit this on Wikidata
PencadlysTehran Edit this on Wikidata
GwladwriaethIran Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://presstv.ir Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mohammad Sarafraz yw pennaeth y sianel newydd. Mae Press TV yn cyflogi 50 o ohebwyr o sawl cenedligrwydd yn Llundain, Efrog Newydd, Washington, Beirut, Damascus, Beijing, Moscow a sawl prifddinas arall, yn ogystal â gohebwyr sy'n olrhain y gwrthdaro rhwng Israel a'r Palestiniaid yn Gaza, Ramallah ac Al-Quds (Caersalem). Mae'r gohebwyr a chyflwynwyr yn cynnwys Yvonne Ridley, a fu'n gweithio i Al Jazeera a'r Sunday Express. Mae'r AS George Galloway, arweinydd RESPECT, yn cyflwyno rhaglenni achlysurol.

Rhyfel Gaza

golygu

Ar ddiwedd 2008 a dechrau 2009, yn ystod ymosodiad Israel ar Lain Gaza, Press TV a'r sianel Arabeg rhyngwladol Al-Alam oedd yr unig rai gyda phresenoldeb yn Gaza ei hun (roedd gan Al-Jazeera a'r BBC ohebwyr lleol yn adrodd ar eu rhan hefyd). Roedd y newyddiadurwyr rhyngwladol hyn yn defnyddio adeilad yng nghanol dinas Gaza ac wedi rhoi manylion llawn ei leoliad i'r awdurdodau Israelaidd a'r Cenhedloedd Unedig er mwyn diogelwch. Roedd y staff wedi cadw'r golau ymlaen ar lawr uchaf yr adeilad trwy gydol y rhyfel hefyd, er mwyn ei ddiogelu. Er hynny, tua 1700 UTC ar y 9fed o Ionawr 2009 trawyd yr adeilad gan roced Israelaidd gan anafu dau o'r staff a difrodi rhan o'r offer darlledu. Doedd dim bomio arall yn y gymdogaeth a chyhuddodd Press TV yr Israeliaid o ymosod yn fwriadol ar y newyddiadurwyr, yn groes i gyfraith ryngwladol. Drwgdybiwyd fod yr ymosodiad yn ymgais i rwystro'r unig ffynhonnell lluniau byw o Gaza rhag darlledu ar y diwrnod y cyhoeddodd llywodraeth Israel fod trydedd ran "Ymgyrch Plwm Bwrw" yn cychwyn a'r Israeliaid ar fin ceiso anfon eu milwyr i mewn i'r ddinas ei hun.[1]

Cyfeiriadau

golygu

Dolen allanol

golygu
  Eginyn erthygl sydd uchod am deledu. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
  Eginyn erthygl sydd uchod am Iran. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.