Derwyddiaeth

crefydd hynafol y Celtiaid ar ynys Prydain

Enw modern ar grefydd y Celtiaid ym Mhrydain a Gâl yw derwyddiaeth.[1] Daw'r enw o'r derwyddon, oedd yn offeiriaid yr hen Geltiaid.

Nid oes gennym ffynonellau am gredoau'r hen Geltiaid o'r bobl eu hunain. Arferai'r derwyddon trosglwyddo eu hathrawiaeth a'u dysgeidiaeth ar lafar, ac nid yn ysgrifenedig. Yn hytrach, mae'r hyn a wyddom yn seiliedig ar ysgrifau gan deithwyr ac hanesyddion Rhufeinig, yn bennaf Plinius yr Hynaf ac Iŵl Cesar.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1.  derwyddiaeth. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 25 Ebrill 2018.