Bardd Eingl-Gymreig sy'n byw ac yn gweithio yn Lerpwl yw Deryn Rees-Jones (ganwyd 1968).[1] Treuliodd hi lawer o'i phlentyndod yng nghartref y teulu yn Eglwys-bach. Mae hi'n ystyried ei hun yn awdur Cymreig.[2]

Deryn Rees-Jones
Ganwyd7 Mehefin 1968 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethbardd, llenor Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Gwobr/auGwobr Eric Gregory Edit this on Wikidata

Cafodd Rees-Jones ei addysg ym Mhrifysgol Bangor. Gwnaeth hi ymchwil doethurol ar feirdd benywaidd yng Ngholeg Birkbeck, Llundain. Mae hi'n Athro Barddoniaeth ym Mhrifysgol Lerpwl.[3] Enillodd Wobr Eric Gregory yn 1993, a Gwobr Awdur Cyngor Celfyddydau Lloegr ym 1996. Yn 2012 a 2019, roedd Rees-Jones ar restr fer Gwobr TS Eliot am ei "Burying the Wren" ac "Erato".

Llyfryddiaeth

golygu

Barddoniaeth

golygu
  • The Memory Tray (Seren, 1994)
  • Signs Round a Dead Body (Seren, 1998)
  • Quiver: A Murder Mystery (Seren, 2004). [4]
  • Falls and Finds (Shoestring, 2008. [5]

Eraill

golygu
  • Contemporary Women's Poetry: Reading/Writing/Practice (golygydd; 2001)
  • Carol Ann Duffy (Northcote House, 2001)
  • Consorting with Angels: Essays on Modern Women Poets (Bloodaxe, 2005)

Cyfeiriadau

golygu
  1. Barry, Peter (2000). Contemporary British poetry and the city (yn Saesneg). Manchester University Press. t. 155. ISBN 978-0-7190-5594-2.
  2. "Deryn Rees-Jones - Poetry Archive" (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 16 Rhagfyr 2009.
  3. "Deryn Rees Jones - Centre for Poetry and Science - University of Liverpool". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 18 Awst 2009. Cyrchwyd 10 Mehefin 2011.
  4. "Poetry International Web - Deryn Rees-Jones" (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 27 Gorffennaf 2011.
  5. "happenstancepress.co.uk".