Pentref, cymuned a phlwyf eglwysig ym mwrdeistref sirol Conwy, Cymru, yw Eglwys-bach[1][2] neu Eglwysbach. Hyd at tua 1904 yr enw a ddefnyddid yn lleol oedd "Banc Llan". Mae'r pentref yn gorwedd ar lôn wledig mewn dyffryn bychan yn y bryniau sy'n ymestyn i'r dwyrain fel cainc o Ddyffryn Conwy, sef Dyffryn Hiraethlyn. Mae tua 3 milltir i'r de o bentref Llansanffraid Glan Conwy (Glan Conwy), rhwng cymunedau bychain Graig a Pentre'r Felin. Mae'r plwyf yn gorwedd rhwng plwyfi Llansanffraid a Maenan.

Eglwysbach
Mathpentref, cymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth935 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirConwy Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd3,384.41 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.218°N 3.791°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000117 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auJanet Finch-Saunders (Ceidwadwyr)
AS/auRobin Millar (Ceidwadwyr)
Map

Mae'r pentref yn adnabyddus am Sioe Eglwysbach, sioe amaethyddol a gynhelir yno ym mis Awst bob blwyddyn, ac sy'n cynnwys arddangosfeydd gwartheg, defaid a cheffylau, arddangosfeydd blodau, reidiau ffair a stondinau amrywiol.

Yn ôl Cyfrifiad 2001, roedd 54% o drigolion Eglwysbach yn medru'r Gymraeg, ffigwr sy'n uwch na'r cyfartaledd ar gyfer sir Conwy ond sy'n sylweddol llai nag yn y gorffennol, yn bennaf oherwydd mewnfudo i'r ardal a diffyg tai fforddiadwy i bobl ifainc leol.

Tua milltir i'r gogledd o'r pentref ceir Gerddi Bodnant, sy'n eiddo i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Eglwys Eglwys-bach

Cyfrifiad 2011 golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5][6]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Eglwys-bach (pob oed) (935)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Eglwys-bach) (448)
  
49%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Eglwys-bach) (550)
  
58.8%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer rhwng 16 – 64 oed sydd mewn gwaith (Eglwys-bach) (136)
  
34.6%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Enwogion golygu

Ffynonellau golygu

  • E. D. Rowlands, Dyffryn Conwy a'r Creuddyn (Lerpwl: Gwasg y Brython, 1947)

Cyfeiriadau golygu

  1. Gwyddoniadur Cymru (Gwasg Prifysgol Cymru), tud. 324
  2. Dictionary of Place-names of Wales (Gwasg Gomer, 2007), tud. 138
  3. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  4. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  5. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  6. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen marw]