Desiderius Erasmus

dyneiddiwr y Dadeni o'r Iseldiroedd, offeiriad Catholig, a diwinydd (1466-1536)

Roedd Desiderius Erasmus (27 Hydref 1466/1469 - 12 Gorffennaf 1536) yn ddyneiddiwr Gristnogol a llenor o Iseldirwr, a aned yn Rotterdam.

Desiderius Erasmus
Ganwyd28 Hydref 1466 Edit this on Wikidata
Rotterdam Edit this on Wikidata
Bu farwo dysentri Edit this on Wikidata
Basel Edit this on Wikidata
DinasyddiaethSeventeen Provinces Edit this on Wikidata
AddysgDoethur mewn Diwinyddiaeth Edit this on Wikidata
Alma mater
ymgynghorydd y doethor
  • Jan Standonck
  • Alexander Hegius von Heek Edit this on Wikidata
Galwedigaethcyfieithydd, athronydd, diwinydd, awdur ysgrifau, cyfieithydd y Beibl, ysgrifennwr, Athro Diwinyddiaeth y Fonesig Margaret, Lladinwr, offeiriad Catholig, academydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Hen Brifysgol Lefeven Edit this on Wikidata
Adnabyddus amIn Praise of Folly, A handbook on manners for children, The Education of a Christian Prince Edit this on Wikidata
Prif ddylanwadEpicureanism, Cicero, Giovanni Pico della Mirandola Edit this on Wikidata
MudiadRenaissance philosophy Edit this on Wikidata

Erasmus oedd efallai'r mwyaf dylanwadol o feddylwyr mawr y Dadeni, nid yn unig am ei feddwl treiddgar ond am ei fod wedi astudio a dysgu ledled Ewrop.

Roedd yn ddyn dysgiedig iawn, yn ysgolhaig penigamp, a chyhoeddodd nifer o lyfrau yn ystod ei oes. Yr enwocaf ohonynt yw yr Encomium Moriae ("Molawd Ffolineb", 1509), a ysgrifennodd er diddanu ei gyfaill Thomas More.

Cyfieithodd y Testament Newydd o'r Roeg, am y tro cyntaf erioed, a dangosodd mai dogfen ail-law oedd y Beibl Fwlgat (cyfieithiad o gyfieithiad).

Gwrthwynebai'n gryf ddogmatiaeth a grym yr offeiriaid ac eto ni wrthododd y ddiwinyddiaeth Gatholig a chadwodd draw o'r ddadl ffyrnig ynghylch dysgeidiaeth Martin Luther.

Llyfryddiaeth golygu

Gweler hefyd golygu