Term ar gyfer person sy'n uniaethu'n heterorywiol yn gyffredinol ond sy'n teimlo neu ddangos rhyw ddiddordeb rhywiol tuag at berson o'r un ryw yw deu-chwilfrydig. Weithiau cymhwysir y term at berson sy'n uniaethu'n gyfunrywiol ond sy'n teimlo neu ddangos rhyw ddiddordeb rhywiol tuag at berson o'r rhyw arall. Awgryma'r term bod yr unigolyn heb unrhyw brofiad rhywiol – neu efallai gydag ychydig o brofiad – o'r fath yna, ond gall berson parháu i hunan-uniaethu'n ddeu-chwilfrydig os nad ydynt yn teimlo fel eu bod wedi archwilio'r teimladau hyn yn ddigonol, neu os nad ydynt yn ystyried eu teimladau yn wir ddeurywiol.

Disgrifiad golygu

Fel y mwyafrif o gynigion i ddiffinio rhywioldeb, mae anghydfod dros addasrwydd y label deu-chwilfrydig. Pa fodd bynnag, fe dderbynir yn gyffredinol gall berson cael eu hystyried yn ddeu-chwilfrydig os ydynt:[1]

  1. yn ystyried, cymryd diddordeb mewn, neu fel arall yn cael eu hatynnu i'r syniad o groesi gororau eu cyfeiriadedd rhywiol arferol a chael perthynas ramantus ac/neu rywiol gydag aelod o'r un ryw (os taw heterorywiol yw eu cyfeiriadedd rhywiol) neu'r ryw arall (os taw cyfunrywiol yw eu cyfeiriadedd rhywiol).
  2. o ddifrif yn ystyried uniaethu'n ddeurywiol, ond heb wneud hynny eto.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) Lesbian Glossary: Bicurious. Lesbian Worlds.

Dolenni allanol golygu