Deux automnes à Paris
Ffilm ddrama gan y cyfarwyddwr Gibelys Coronado yw Deux automnes à Paris a gyhoeddwyd yn 2020. Fe'i cynhyrchwyd yng Nghanada a Feneswela. Cafodd ei ffilmio yn Caracas. Sgwennwyd y sgript yn wreiddiol yn Ffrangeg, Sbaeneg a Guaraní[1]. Mae’r ffilm yn seiliedig ar y nofel Dos otoños en París, stori ffoadur gwleidyddol gan yr awdur Francisco Villarroel[2].
Enghraifft o'r canlynol | ffilm |
---|---|
Gwlad | Canada, Feneswela |
Dyddiad cyhoeddi | 2020 |
Genre | Drama |
Hyd | 102 munud |
Cyfarwyddwr | Gibelys Coronado |
Cynhyrchydd/wyr | Francisco Villarroel |
Iaith wreiddiol | Sbaeneg, Ffrangeg, Guaraní |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Crynodeb
golyguMae'r ffilm yn adrodd stori garu María Teresa ac Antonio pan oedden nhw'n ifanc. Flynyddoedd lawer ar ôl y cyfarfod hwnnw, mae'n hydref eto ac mae Antonio yn dychwelyd i Baris wedi'i wahodd i roi cynhadledd ar hawliau dynol. Ar y ffordd o’r maes awyr i neuadd y digwyddiad, mae Antonio’n ail-greu’r stori garu yr oedd yn ei byw gyda’r hardd María Teresa, ffoadur gwleidyddol ifanc o Baragwâi a ffodd o’i gwlad i achub ei hun rhag gormes troseddol unbennaeth y Cadfridog gwaedlyd Alfredo Stroessner[3].
Cyfarwyddwr
golyguAstudiodd cyfarwyddwr y ffilm ym Mhrifysgol Ganolog Venezuela a bu'n gweithio fel cyfarwyddwr cynorthwyol i'r gwneuthurwr ffilmiau Cesar Bolívar ac yn y Ganolfan Ffilm Genedlaethol.
Derbyniad
golyguEnwebwyd y ffilm ar gyfer Gwobrau Platinwm Ffilm Ibero-Americanaidd, cafodd ei dewis ar gyfer Gŵyl Ffilm Hawliau Dynol Colombia a chymerodd ran mewn mwy na 50 o wyliau rhyngwlado.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ ""Dos otoños en París" llega a las salas de cine de Venezuela". El Universal (yn Sbaeneg). 2021-02-09. Cyrchwyd 2022-09-25.
- ↑ Gutiérrez, Félix Eduardo (2019-10-23). ""Dos otoños en París" recrea la historia de activista desaparecida en la dictadura de Stroessner". El Ciudadano (yn Sbaeneg). Cyrchwyd 2022-09-25.
- ↑ "La Nación / Filme venezolano recrea el horror durante la dictadura en Paraguay". www.lanacion.com.py (yn Sbaeneg). Cyrchwyd 2022-09-25.