Dewi Zephaniah Phillips

(Ailgyfeiriad o Dewi Z. Phillips)

Athronydd oedd Dewi Zephaniah Phillips (D. Z. Phillips) (24 Tachwedd, 1934 - 25 Gorffennaf, 2006). Bu'n Athro yn Adran Athroniaeth Coleg Prifysgol Cymru, Abertawe, ac yn Athro Athroniaeth Crefydd ym Mhrifysgol Clarement, California.

Dewi Zephaniah Phillips
Ganwyd24 Tachwedd 1934 Edit this on Wikidata
Abertawe Edit this on Wikidata
Bu farw25 Gorffennaf 2006 Edit this on Wikidata
Abertawe Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethathronydd, academydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Prifysgol Groningen Edit this on Wikidata

Bu'n flaenllaw yn natblygiad athroniaeth yn y Gymraeg, a chyfrannodd yn fynych i Efrydiau Athronyddol Adran Athroniaeth Urdd Graddedigion Prifysgol Cymru. Enillodd enw rhyngwladol iddo'i hun ym meysydd moeseg ac athroniaeth crefydd, ac roedd yn awdurdod ar waith Ludwig Wittgenstein. Yn ogystal, cymerai ddiddordeb yn y berthynas rhwng athroniaeth a llenyddiaeth, ac yng ngwaith Simone Weil, a Søren Kierkegaard. Roedd yn olygydd Philosophical Investigations (Blackwells), y Swansea Series in Philosophy (Palgrave), a'r cyfresi Claremont Studies in the Philosophy of Religion a Wittgensteinian Studies.

Fe'i ganwyd yn Nhreforys, Sir Abertawe. Astudiodd yng Ngholeg y Brifysgol, Abertawe (1952-58) ac ym Mhrifysgol Rhydychen (1958-61). Roedd yn weinidog eglwys yr Annibynwyr yn Fabian Way, Abertawe, rhwng 1959 ac 1961. Cychwynodd ei yrfa academaidd yng Ngholeg y Frenhines, Dundee, ym 1961, cyn ymuno â Choleg Prifysgol Gogledd Cymru rwng 1963 a 1965. Cychwynodd ddarlithio Athroniaeth ym Mhrifysgol Abertawe ym 1965, ac fe ddaeth yn athro yno ym 1971.

Priododd Margaret Monica Hanford ym 1959, a chawsant dri mab: Steffan, Rhys, ac Aled. Bu'n ymgyrchu dros Addysg Gymraeg yn ardal Abertawe, a thros ddysgu ac ymchwil cyfrwng Cymraeg yn y Brifysgol.

Ffynonellau golygu

Taliesin, Cyfrol 129 (Gaeaf 2006), Academi

Llyfryddiaeth golygu

  • Athronyddu ar Grefydd
  • Dramau Gwenlyn Parry
  • R. S. Thomas: Poet of the Hidden God
  • J. R. Jones (Writers of Wales)
  • Concept of Prayer (1965)
  • Through a Darkening Glass (1982)
  • From Fantasy to Faith (1991)
  • Interventions in Ethics (1992)
  • Wittgenstein and Religion (1994)
  • Faith After Foundationalism: Platinga-Rorty-Lindbeck-Berger - Critiques and Alternatives (1995)
  • Religion and Morality (1996)
  • Religion and the Hermeneutics of Contemplation (2001)
  • Religion and Friendly Fire: Examining Assumptions in Contemporary Philosophy of Religion (2004)
  • The Problem of Evil and the Problem of God (2004)
  • In Dialogue with the Greeks: The Presocratics and Reality (2004)