Efrydiau Athronyddol
Cyhoeddir Efrydiau Athronyddol gan Wasg Prifysgol Cymru ar ran Adran Athronyddol Urdd Graddedigion Prifysgol Cymru yn reolaidd ers 1938. Mae'r cyhoeddiadau yn cynnwys erthyglau athronyddol, adolygiadau llyfrau, ac ysgrifau coffa. Mae'r holl gynnwys yn y Gymraeg.
Enghraifft o'r canlynol | cyfnodolyn, cylchgrawn |
---|---|
Cyhoeddwr | Gwasg Prifysgol Cymru |
Gwlad | y Deyrnas Unedig |
Rhan o | Cylchgronau Cymru Ar-lein |
Iaith | Cymraeg |
Dyddiad cyhoeddi | 1938 |
Lleoliad cyhoeddi | Caerdydd |
Mae'r cylchgrawn wedi ei ddigido fel rhan o brosiect Cylchgronau Cymru Ar-lein gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru.