Dialog etre Arzur roe d'an Bretouned ha Guinglaff

Gwaith llenyddol Llydaweg Canol yw Dialog etre Arzur roe d'an Bretouned ha Guinglaff, sef 'Ymddiddan rhwng Arthur, brenin y Brythoniaid a Gwinglaff'. Ysgrifennwyd yr ymddiddan tua'r flwyddyn 1450. Mae'n perthyn i ddosbarth arbennig o lenyddiaeth ganoloesol lle mae Arthur yn ymddiddan gyda rhywun, fel arfer ar bynciau sy'n ymwneud â doethineb (cymharer Ymddiddan Arthur a'r Eryr yn Gymraeg).

Dyma'r cyfansoddiad Llydaweg hynaf sydd wedi goroesi fel testun cyfan. Ymddiddan ydyw rhwng y Brenin Arthur a doethwr o'r enw 'Gwinglaff' (Gwynglaff=Gwynglain efallai). Mae'r cymeriad hwn yn anhysbys fel arall ond mae'n dwyn rhai o nodweddion Myrddin Wyllt, fel gŵr doeth sy'n byw fel meudwy yn y goedwig. Mae'n broffwyd neu ddaroganwr hefyd, sy'n dweud wrth Arthur ei fod yn barod i ddarogan am unrhyw beth a enwir gan y brenin, heblaw am ei farwolaeth ef a marwolaeth Gwinglaff ei hun. Mae'n bosibl felly mai ffurf ar Fyrddin yw'r Gwinglaff hwn.[1]

Yn ieithyddol, nodweddir y testun gan fenthyciadau sylweddol iawn o'r Ffrangeg. Roedd y testun ar gadw yn Abaty Landévennec yn Finistère, Llydaw hyd at y 18g ond diflanodd. Am gyfnod dim ond dyfyniadau oedd ar gael i ysgolheigion ond darganfuwyd copi cyfan o'r testun mewn llawysgrif mewn chateau ger Morlaix yn 1924.[2]

Cyfeiriadau

golygu
  1. J. E. Caerwyn Williams, 'Brittany and the Arthurian Legend', yn The Arthur of the Welsh (Gwasg Prifysgol Cymru, 1991), tud. 263.
  2. Francis Gourvil, Langue et littérature bretonnes (Presses Universitaires de France, 1952), tud. 113.

Llyfryddiaeth

golygu

Ceir y testun wedi ei olygu yn y cylchgrawn Annales de Bretagne 38 (1928-9), tt. 627-74.

  1. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-07-09. Cyrchwyd 2016-01-06.