Llydaweg Canol
Llydaweg Canol (Llydaweg: Krennvrezhoneg) yw'r term a ddefnyddir i ddisgrifio'r iaith Lydaweg ysgrifenedig yn y cyfnod o ddiwedd yr 11g hyd at ran gyntaf yr 17g. Mae'n cyfateb yn fras i Gymraeg Canol, ond ei bod wedi parhau'n hirach fel cyfrwng llenyddiaeth.
Mae etifeddiaeth lenyddol Llydaweg Canol heddiw yn cynnwys barddoniaeth a dramâu gyda thestunau crefyddol yn dominyddu. Ond fe allai'r gweddillion llenyddol hyn fod yn gamarweiniol ac mae'n debyg fod llawer o gynnyrch y cyfnod wedi diflannu.
Cronoleg
golyguGellir rhannu Llydaweg Canol yn dri chyfnod:
- 1100 - 1450 : Llydaweg Canol Cynnar
- 1450 - 1600 : Llydaweg Canol Clasurol
- 1600 - 1659 : Llydaweg Canol Diweddar
Gweithiau llenyddol
golyguLlydaweg Canol Clasurol
golyguDyma gyfnod mwyaf cynhyrchiol Llydaweg Canol o ran y llenyddiaeth sydd wedi goroesi. Mae gweithiau llenyddol o'r cyfnod yn cynnwys:
- Dialog etre Arzur roe d'an Bretouned ha Guinglaff - 'Ymddiddan rhwng Arthur, brenin y Brythoniaid a Gwynglaff', ysgrifennwyd tua 1450.
- Ar C'hredo - 'Y Credo', 1456.
- Ar C'hatolikon (Catholicon) - Geiriadur Llydaweg-Ffrangeg-Lladin gan Jehan Lagadeuc, ysgrifennwyd yn 1464, cyhoeddwyd yn 1499.
- Buhez Santes Nonn hag he map Devy - Fersiwn Lydaweg o destun Lladin o Fuchedd Dewi, yn adrodd hanes Dewi Sant a'i fam Non; cyfansoddwyd rhwng tua 1480 a 1500.
- Geriaoueg Arnold Von Harff (beajour alaman) - rhwng 1496 a 1499.
- Buhez Santes Barba - Cyfieithiad o'r Fuchedd Santes Barbara Ladin, cyhoeddwyd yn 1557.
- Le Mirouer de la Mort - sef 'Drych yr Angau' gan Jehan an Archer, cyhoeddwyd yn 1575.
- Buhez an Itron sanctes Cathell - 1576.
- Buhez Sant Guenole - ysgrifennwyd yn 1580.
Llyfryddiaeth
golygu- Francis Gourvil, Langue et littérature bretonnes (Presses Universitaires de France, 1952; sawl argraffiad diweddarach)
- Henry Lewis, Llawlyfr Llydaweg Canol (Gwasg Prifysgol Cymru)
- Henry Lewis & J. R. F. Piette Llawlyfr Llydaweg Canol (Gwasg Prifysgol Cymru, argraffiad diwygiedig, 1966)
Dolenni allanol
golygu- (Ffrangeg) Catholicon Jehan Lagadeuc ar-lein