Dic Penderyn
glöwr a gweithiwr bôn braich
Gwrthryfelwr Cymreig oedd Dic Penderyn (enw bedydd: Richard Lewis) (1808 – 13 Awst 1831), glowr a llafuriwr yn ôl ei alwedigaeth.
Dic Penderyn | |
---|---|
Ganwyd | 1808 Aberafan |
Bu farw | 13 Awst 1831 o crogi |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | gweithiwr bôn braich, glöwr |
Ganwyd yn Aberafan a daeth yn enwog wedi iddo gael ei grogi ar gam. Trigai ym Merthyr Tydfil a chymerodd ran yng Ngwrthryfel Merthyr ar 3 Mehefin 1831.[1] Fe'i arestiwyd ar 3 Mehefin, gyda'i gyfaill Lewis Lewis, un o'r arweinwyr.
Fe'i cyhuddwyd o drywanu milwr yn ei goes gyda bidog, er y teimlai nifer ar y pryd, ei fod yn ddieuog. Dywedir fod y llywodraeth Brydeinig am ladd o leiaf un o'r gwrthrhyfelwyr fel esiampl. Wedi ei farwolaeth, cafodd ei ddyrchafu i statws merthyr Cymreig.
Claddwyd Dic Penderyn ym mynwent eglwys y Santes Fair, Aberafan.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Dic Penderyn (Richard Lewis)". 100 Welsh Heroes. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-09-15. Cyrchwyd 21 Awst 2006.
Dolen allanol
golygu- Arwyr Cymru Archifwyd 2008-05-17 yn y Peiriant Wayback