Dicloffenac
Mae diclofenac yn gyffur sy'n perthyn i'r grŵp cyffur gwrthlid ansteroidol (NSAID), mae'n gyffur poen leddfol sy'n cael ei ddefnyddio i drin gwahanol fath o boenau[1] megys spondylitis ymasiol, necrosis aseptig, poen cefn, ysgwydd wedi'i rewi, y meigryn, ac ati[2].[3] Y fformiwla cemegol ar gyfer y cyffur hwn yw C₁₄H₁₁Cl₂NO₂.
Dicloflexec | |
Enghraifft o'r canlynol | math o endid cemegol |
---|---|
Math | cyfansoddyn cemegol |
Màs | 295.017 uned Dalton |
Fformiwla gemegol | C₁₄h₁₁cl₂no₂ |
Enw WHO | Diclofenac |
Clefydau i'w trin | Poen, crydcymalau gwynegol, osteoarthritis, sbondylitis asiol, crydcymalau gwynegol ieuengaidd, caleden, llid, photophobia, actinic keratosis, osteoarthritis susceptibility 1, cur pen eithafol, fibromyalgia, cymalwst, gowt, migraine without aura, rotator cuff tear, gwynegon, plantar fasciitis, medial epicondylitis, niwropatheg amgantol |
Beichiogrwydd | Categori beichiogrwydd awstralia c, categori beichiogrwydd unol daleithiau america c |
Yn cynnwys | nitrogen, ocsigen, carbon, clorin |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Gwybodaeth gyffredinol
golyguO'i ddefnyddio mewn dos unigol mae gan diclofenac priodweddau poen leddfol sy'n debyg iawn i briodweddau paracetamol. Mae'n cael ei ddefnyddio i leddfu cur pen ysgafn i gymedrol, i leddfu poenau'n gysylltiedig â'r misglwyf a phoen sy'n gysylltiedig â chlefydau llidiol fel rhiwmatig a'r gwynegon. Mae hefyd yn cael ei ragnodi i drin ymosodiadau acíwt o'r gymalwst (gowt). Mae'n cael ei ddefnyddio hefyd ar ffurf diferion i'r llygaid er mwyn trin llid ar y llygaid.
Mae'n cael ei ragnodi weithiau mewn paratoad cyfunol gyda misoprostol. Mae misoprostol yn cael ei ddefnyddio i atal wlserau dwodenwm, sef un o sgil effeithiau diclofenac.
Dosbarthiad masnachol
golyguYn y DU mae diclofenac ar gael trwy bresgripsiwn yn unig. Mae'n cael ei ddosbarthu o dan yr enwau brand Defenac, Dicloflex, Diclomax SR, Dyloject (darpariaeth ar gyfer pigiad), Motifene, Rhumalgan a Volterol[4]
Sgil effeithiau
golyguCyffredin
golygu- Dŵr poeth / llosg cylla
- Pwys cyfog / chwydu
Llai cyffredin
golygu- Cur pen
- Pendro
- Chwyddo'r coesau a neu'r traed
- Tewychu
- Trafferth anadlu
- Brech / cosi
- Gwaedu wrth ymgarthu / carthion wedi eu duo gan gynnwys gwaed
Rhagofalon arbennig
golygu- Cleifion efo problemau iau neu aren hirdymor
- Cleifion efo anhwylderau gwaedu
- Yn byw gyda wlserau dwodenwm
- Yn byw gyda porffyria
- Alergedd i aspirin a chyffuriau gwrthlid ansteroidol eraill
- Asthma
- Problemau'r galon
- Pwysedd gwaed uchel
Beichiogrwydd
golyguGall y cyffur achosi problemau'r galon i'r baban yn y groth ac achosi problemau wrth esgor o'i ddefnyddio yn ystod y tri mis olaf o feichiogrwydd. Mae ychydig bach o'r cyffur yn gallu treiddio i laeth y bron ond mae effeithiau andwyol i'r baban sy'n sugno yn annhebygol.
Gyrru a gwaith peryglus
golyguGan fod y cyffur yn gallu achosi pendro, madrondod a dryswch dylid ymatal rhag gyrru / gwneud gwaith peryglus am ychydig ddyddiau hyd wybod effaith y cyffur arnoch.
Alcohol
golyguDylid ymatal rhag diodydd cadarn wrth ddefnyddio diclofenac oherwydd y perygl cynyddol o gael gwaedlif yn yr ystumog
Defnydd meddygol
golyguFe'i rhoddir fel triniaeth ar gyfer gwahanol gyflyrau meddygol, gan gynnwys:
Enwau
golyguCaiff cyffuriau eu hadnabod gan amryw o enwau gwahanol yn aml. Enw cemegol y cyffur hen yw Dicloffenac, ond rhoddir enwau masnachol a brand iddo hefyd, gan gynnwys;
Cyfeiriadau
golygu- ↑ BMA New Guide to Medicine & Drugs; BMA 2015 ISBN 0241183413
- ↑ Diclofenac adalwyd 14 Ionawr, 2018
- ↑ Pubchem. "Dicloffenac". pubchem.ncbi.nlm.nih.gov (yn Saesneg). Cyrchwyd 2018-02-28.
- ↑ The National Institute for Health and Care Excellence DICLOFENAC SODIUM adalwyd 14 Ionawr 2018
Cyngor meddygol |
Sgrifennir tudalennau Wicipedia ar bwnc iechyd er mwyn rhoi gwybodaeth sylfaenol, ond allen nhw ddim rhoi'r manylion sydd gan arbenigwyr i chi. Mae llawer o bobl yn cyfrannu gwybodaeth i Wicipedia. Er bod y mwyafrif ohonynt yn ceisio osgoi gwallau, nid ydynt i gyd yn arbenigwyr ac felly mae'n bosib bod peth o'r wybodaeth a gynhwysir ar y ddalen hon yn anghyflawn neu'n anghywir. Am wybodaeth lawn neu driniaeth ar gyfer afiechyd, cysylltwch â'ch meddyg neu ag arbenigwr cymwys arall! |