Digain
(0401- )
Sant Celtaidd cynnar oedd Digain (fl. dechrau'r 5g efallai).[1] Dethlir ei ddydd gŵyl ar 21 Tachwedd, yn flynyddol.
Digain | |
---|---|
Ganwyd | 5 g |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Dydd gŵyl | 21 Tachwedd |
Tad | Cystennin |
Traddodiad
golyguYn ôl traddodiad roedd Digain yn fab i Gustennin Gorneu, brenin Brythonaidd Dyfnaint. Os gwir hynny, mae'n bosibl ei fod yn frawd i Erbin ac felly'n ewythr i Geraint fab Erbin, un o arwyr y Tair Rhamant, ond mae yna ansicrwydd ynglŷn am hynny.[2]
Digain a Llangernyw
golyguDim ond un eglwys a gysylltir â Digain, sef eglwys plwyf Llangernyw (yn Sir Conwy). Yn ogystal â'r eglwys ceir Ffynnon Ddigain yng Nghoed Digain ger y pentref.[1]