Llangernyw

pentref a chymuned ym Mwrdeisdref Sirol Conwy

Pentref bychan a chymuned ym mwrdeistref sirol Conwy, Cymru, yw Llangernyw.[1][2] Roedd yn rhan o'r hen Sir Ddinbych a Chlwyd cyn hynny. Mae'n un o gadarnleoedd yr iaith Gymraeg yn y rhan hon o'r sir.

Llangernyw
Canol pentref Llangernyw
Mathpentref, cymuned, anheddiad dynol Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirConwy Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.193°N 3.685°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000126 Edit this on Wikidata
Cod OSSH873674 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auDarren Millar (Ceidwadwyr)
AS/auDavid Jones (Ceidwadwr)
Map

Mae'r pentref yn gorwedd ar bwys cymer yr afonydd Cledwen, Gallen, a Collen (sy'n troi'n Afon Elwy ) ar lôn yr A548, tua 7 milltir i'r gogledd-ddwyrain o Lanrwst ac 10 milltir i'r de-orllewin o Abergele ar y lôn honno. Mae'n gorwedd mewn dyffryn deniadol yng nghanol bryniau isel wrth droed bryn Tre-pys-llygod.

Yr ywen hynafol ym mynwent yr eglwys

Hynafiaethau golygu

Mae'r eglwys, sy'n gysegredig i Sant Digain, yn hen ond wedi'i hatgyweirio'n sylweddol. Mae'r bedyddfaen yn dyddio o'r 15g. Ym mynwent yr eglwys ceir dau bâr o feini hirion cynhanesyddol; rhywbryd yn ystod yr Oesoedd Canol cynnar cerfiwyd croesau arnyn nhw (maen nhw'n debyg i groesau eraill sy'n perthyn i'r seithfed neu'r 8g). Ar ben hynny cawsant eu gosod fel beddfeini i ddau fedd o'r 17g. Ceir coeden ywen yn y fynwent sy'n hen iawn. Saif Hen domen Castell Isaf tua kilometr i'r gogledd o'r pentref, sef tomen amddiffynnol o'r Oesoedd Canol.

Hanner milltir i'r gorllewin, ar bwys yr hen lôn i Eglwysbach, ceir plasdy Hafodunos. Bu plasdy ar y safle yn y 16g ond mae'r plasdy Gothig presennol yn dyddio o'r 1860au. Syr George Gilbert Scott oedd y pensaer. Cafodd ei ddifrodi'n sylweddol gan dân yn 2004.

Yn y pentre mae Amgueddfa Syr Henry Jones yn adeilad 'Y Cwm' lle ganwyd Syr Henry Jones "Yr Athro Alltud" a ddaeth yn arloeswr ym myd addysg a rhyddfrydiaeth grefyddol, yn ogystal ag athronydd dylanwadol yng Nghymru a'r Alban.

Addysg golygu

Ceir ysgol gynradd Gymraeg yn y pentref, sef Ysgol Gynradd Bro Cernyw, a agorwyd yn 1969.[3]

Bywyd gwyllt golygu

  • Gwelwyd walchwyfyn penglog Acherontia atropos (mewnfudwr prin o dramor) yn Llangernyw ar 21 Medi 2015[4]

Cyfrifiad 2011 golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[5][6][7]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Llangernyw (pob oed) (1,079)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llangernyw) (672)
  
64.4%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llangernyw) (746)
  
69.1%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Llangernyw) (99)
  
23.2%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Pobl o Langernyw golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 21 Tachwedd 2021
  3. Ysgol Bro Cernyw Archifwyd 2008-08-28 yn y Peiriant Wayback. ar wefan Bro Cernyw]
  4. gwefan Llên Natur[1]
  5. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nifer sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  6. [2]; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  7. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.