Dill Jones
Pianydd jazz o Gymro oedd Dillwyn Owen Paton Jones (19 Awst 1923 - 22 Mehefin 1984).
Dill Jones | |
---|---|
Ganwyd | 19 Awst 1923 Castellnewydd Emlyn |
Bu farw | 22 Mehefin 1984 Dinas Efrog Newydd |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | pianydd, cyflwynydd teledu, cyflwynydd radio, cerddor jazz |
Arddull | jazz, cerddoriaeth swing |
Yn fab i reolwr banc fe'i ganwyd yn Sunnyhill, Castellnewydd Emlyn, ac fe wnaeth y teulu symud i Dalgarth a Llanymddyfri. Roedd ei dad wedi ei fagu yng Nghei Newydd. Fe'i ganwyd yng Nghastell Newydd Emlyn a'i fagu yng Nghei Newydd, Ceredigion.
Ei athrawes biano gyntaf oedd ei fam Lavinia Bevan ac wedyn yn Llandeilo, Emlyn Evans. Dywedir ei fod yn chwarae gwaith Robinstein yn saith oed. Mynychodd Goleg Llanymddyfri fel disgybl dydd yn 1935. Gadawodd yn 1940, ac ar ôl ychydig o amser yn gweithio mewn banc ymunodd â'r llynges yn 1945. Daeth allan o'r llynges yn Mehefin 1946. Ar ôl gweithio mewn banc yn Llundain am ychydig cyn mynd i Goleg Cerdd y Drindod, Llundain. (Trinity College of Music).
Ar ôl ymfudo i America yn 1961 bu yn cyd-chwarae gyda pobl fel Gene Krupa, Jimmy McPartland a Yank Lawson.
Dechreuodd ei yrfa jaz gyda Carlo Krahmer a Humphrey Lyttelton.