Dilig (sant)
santes Gymraeg o 5g
Santes o ddiwedd y 5g oedd Dilig a oedd yn ferch i Brychan ac a gysylltir gyda phlwyf St Illick (ac eglwys St Electa) Sen Endelyn, Cernyw.[1]
Dilig | |
---|---|
Ganwyd | Pontardawe |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | arweinydd crefyddol |
Blodeuodd | 5 g |
Mae gan Dilig ffynnon yng Nghilbebyll ger Pontardawe. Yn un o lawysgrifau Peniarth cofnodir fod bedd Dilic Gawr (sydd dros 30 troedfedd o hyd) rhwng Llansawel a Baglan. Cysegrwyd eglwys yng Nghernyw i'r sant yma.
Ceir amrywiadau Cernyweg ar ei henw gan gynnwys: Illick, Telick, Electa a Delech.
Gwryw o'r un enw
golyguCeir hefyd sant gwrywaidd o'r un enw sydd a chysylltiad â Plouray ym Morbihan, Llydaw a Sant Illec (St.Dilecq heddiw) ger Kemperle.
- ↑ Geiriadur Clasurol Cymreig; adalwyd 26 Ebrill 2018.