Peniarth

plasty yn Llanegryn, Gwynedd

Plasty yng nghymuned Llanegryn, Meirionnydd, de Gwynedd, a fu'n gartref teuluol y Wynniaid ("Wynne" yn ddiweddarach) yw Peniarth. Mae'r plasty wedi rhoi ei enw i gasgliad o lawysgrifau a elwir yn Lawysgrifau Peniarth.

Peniarth
Mathplasty gwledig Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadYstad Peniarth, Llanegryn Edit this on Wikidata
SirLlanegryn Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr6 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.6286°N 4.05195°W Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd II*, Henebion Cenedlaethol Cymru Edit this on Wikidata
Manylion

Mae Peniarth yn lle pwysig yn hanes llenyddiaeth Gymraeg am fod y casgliad o lawysgrifau canoloesol a gasglwyd gan Syr Robert Vaughan (1592 - 1667) o Hengwrt, Meirionnydd, wedi cael cartref yno yn y 19g. Gwerthwyd y casgliad hwnnw gan William Wynne VII i Syr John Williams yn 1898. Dyma'r casgliad unigol pwysicaf o hen lawysgrifau Cymraeg a adnabyddir heddiw fel Llawysgrifau Peniarth ac a ddiogelir yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth.[1]

Erbyn heddiw mae'r hen blasty yn fferm gyda thir sylweddol yn perthyn iddi yn Nyffryn Dysynni.

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. Meic Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru (Gwasg Prifysgol Cymru).


  Eginyn erthygl sydd uchod am Wynedd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato