Dima Tahboub
Mae Dima Tahboub (Arabic:ديمة طهبوب; g. 1976, Hebron) yn awdures, gwleidydd gweithredol, ac yn aelod o Frawdoliaeth Mwslemaidd yr Iorddonen. Mae hefyd yn llefarydd Saesneg dros y ffrynt Gweithredol Islamaidd Gwlad yr Iorddonen.[1][2]
Dima Tahboub | |
---|---|
Ganwyd | 1976 Hebron |
Dinasyddiaeth | Iorddonen |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | newyddiadurwr, llenor |
Swydd | Member of the House of Representatives of Jordan |
Plaid Wleidyddol | Islamic Action Front |
Lladdwyd ei gŵr, a oedd yn ohebydd gydag Al Jazeera yn 2003, pan saethwyd dwy daflegryn o awyren Unol Daleithiau America gan chwalu un o adeiladau Al Jazeera.
Tyfu i fyny
golyguCafodd ei geni ym 1976 ac roedd ei thad Tarek Tahboub yn gyn-bennaeth Cymdeithas Feddygol Gwlad yr Iorddonen.[3] Yn 2000 priododd Dima a Tareq Ayyoub, ac yn 2002 cawsant ferch, Fatima.[4]
Prifysgol
golyguWedi graddio mewn Saesneg ym Mhrifysgol Gwlad yr Iorddonen, cwbwlhaodd Dima Tahboub ddoethuriaeth o Brifysgol Manceinion.[4]
Gwaith
golyguDechreuodd gyhoeddi'n rheolaidd gyda phapur newydd Assabeel yn yr Iorddonen, ac mae wedi ysgrifennu dros 800 o erthyglau. Yna cyhoeddodd yn Al-Quds Al-Arabi ac Islamtoday ac Al-Jazeera Talk, ac mewn papurau newydd Palesteinaidd a llawer o wefannau cymdeithasol.
Mae ffocws ei hysgrifennu'n aml yn cynnwys gogwydd ar Balesteina.
Cwestiynnu barn y gorllewin
golyguYn 2017, lobiodd Tahboub y Llywodraeth i wahardd band cerddorol Mashrou 'Leila o Libanus, gan geisio eu gwahardd rhag perfformio yn Amman oherwydd fod y band yn galw am ryddid rhywiol. Cyhoeddodd gŵyn hefyd yn erbyn yr unig gylchgrawn LGBTQ yn yr Iorddonen, My Kali, a llwyddodd i wthio llywodraeth Jordanian i'w sensro.[5]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "The king and the people!". Al Jazeera. 2012-07-30. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-12-25. Cyrchwyd 2014-10-06.
- ↑ New Media spokesperson of the Jordanian Islamic Action Front in English Archifwyd 2017-07-30 yn y Peiriant Wayback(ar)
- ↑ Jordan's Brotherhood appoints 1st spokeswoman, world bulletin, 03 Hydref 2014
- ↑ 4.0 4.1 Tareq Ayoub: a 'martyr to the truth', 14 Dec 2011, Aljazeera
- ↑ "Jordanian MP engages in ongoing battle against LGBT+ community". Ro'ya News. 31 Gorffennaf 2017. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-11-12. Cyrchwyd 16 Gorffennaf 2018.