Dimitar Blagoev
Gwleidydd o Fwlgaria oedd Dimitar Blagoev (Bwlgareg Димитър Благоев) (14 Mehefin 1856 – 7 Mai 1924).
Dimitar Blagoev | |
---|---|
Ganwyd | 14 Mehefin 1856 Vasileiada |
Bu farw | 7 Mai 1924 Sofia |
Dinasyddiaeth | Bwlgaria |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd |
Swydd | Aelod o Gynulliad Cenedlaethol Bwlgareg, Aelod o Gynulliad Cenedlaethol Bwlgareg, Aelod o Gynulliad Cenedlaethol Bwlgareg |
Plaid Wleidyddol | Bulgarian Communist Party |
Priod | Vela Blagoeva |
Plant | Dimitar Blagoev, Stella Blagoeva, Natalia Blagoeva, Vladimir Blagoev |
Fe'i ganwyd ym mhentref Zagorichani (heddiw Vasileiás, Gwlad Groeg) ym 1856. Tra oedd yn astudio ym Mhrifysgol St Petersburg rhwng 1881 a 1885, dechreuodd ddarllen llenyddiaeth ysgrifenwyr Marcsaidd. Sylfaenodd Blaid Ddemocrataidd Gymdeithasol Bwlgaria (Balgarskata sotsialdemokraticheska partiya, BSDP) ym 1891. Ymunodd y blaid honno â Phlaid Gweithwyr Ddemocrataidd Gymdeithasol Bwlgaria (Balgarskata rabotnicheska sotsialdemokraticheska partiya, BRSDP) ym 1894. Arweiniodd asgell Farcsaidd y blaid newydd yn erbyn y 'diwygwyr' megis Krastyu Rakovski a Yanko Sakazov. Fe'i hetholwyd i'r Cynulliad Cenedlaethol ym 1899 ac eto ym 1902. Arweiniodd y frwydr o fewn y blaid at rwyg, pryd ymunodd Blagoev â'r grŵp Marcsaidd, y BRSDP (sosialwyr cul). Cynhaliodd ef greadigaeth undeb llafur Bwlgaria ym 1904. Croesawodd y blaid Chwyldro Rwsia 1905, a dechreuodd agosáu at bolsieficiaid Rwsia. Ym 1919 ymunodd y blaid â'r Trydydd International (Yr International Comiwnyddol neu Comintern), ac fe'i hailenwyd fel Plaid Gomiwnyddol Bwlgaria. Bu farw Blagoev yn Sofia ar 7 Mai 1924. Ym 1950 ailenwyd tref Gorna Dzhumaya er parch iddo fel Blagoevgrad, yr enw y mae'n ei ddwyn hyd heddiw.