Gwersyll neu ddinas a leolir i'r gogledd-ddwyrain o dref Khalis yn Irac, tua 20 km o'r ffin ag Iran a 60 km i'r gogledd o ddinas Baghdad, yw Dinas Ashraf neu Gwersyll Ashraf. Enwir y ddinas ar ôl Ashraf Rajavi, carcharor gwleidyddol enwog yng nghyfnod y Shah. Heddiw mae Dinas/Gwersyll Ashraf yn wersyll ffoaduriaid Iranaidd yn Irac.

Dinas Ashraf
Mathcyfleuster, gwersyll milwrol Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlAshraf Rabiei Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1986 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirDiyala Governorate Edit this on Wikidata
GwladBaner Irac Irac
Cyfesurynnau34.0636°N 44.5733°E Edit this on Wikidata
Map
Sefydlwydwyd ganSaddam Hussein Edit this on Wikidata
Prif borth Dinas Ashraf

Mae sefyllfa'r wersyll yn gymhleth. Dywedir fod tua 3,500 o bobl, aelodau o'r Mujahideen-e-Khalq (MEK) neu'r PMOI a'u teuluoedd, yn byw yno ac mae wedi gwasanaethu fel pencadlys y mudiad ers 1986. Ystyrir y Khalq yn fudiad terfysgol gan lywodraeth yr Unol Daleithiau ac eraill. ond roedd un o wersylloedd byddinoedd y Cynghreiriaid yn Irac yn Ashraf (Forward Operating Base Grizzly) tan 2008. Bu'n cael ei rhedeg gan y UD ac wedyn gan uned o fyddin Bwlgaria, gyda chanolfan yno i dderbyn pobl oedd eisiau gadael y PMOI. Dan lywodraeth Saddam Hussein, roedd Ashraf yn un o chwech gwersyll yn Irac a roddwyd i'r PMOI. Rhoddywd arfau, yn cynnwys tanciau, i'r PMOI yn Ashraf, eu pencadlys. Ymladdodd oddi yno yn erbyn Iran yn Rhyfel Iran-Irac a hefyd yn erbyn y Cyrdiaid yn 1991.

Bu Ashraf dan ofal llywodraeth UDA tan fis Ionawr 2009 pan drosglwyddwyd y cyfrifoldeb i lywodraeth Irac ar ôl i'w grym gael ei ymestyn dan gytundeb â'r Americanwyr. Ar 28 Gorffennaf 2009, ymosododd lluoedd Irac ar Ddinas Ashraf. Lladdwyd saith o'r mujahideen ac anafwyd nifer o rai eraill. Cipwyd dwsinau o aelodau o'r Khalq i gael eu cwestiynu. Ofnir bydd llywodraeth Irac yn anfon y ffoaduriaid yn ôl i Iran lle maen nhw'n debyg o wynebu triniaeth hallt gan y llywodraeth gyda'u bywydau mewn perygl.[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. "Images of Camp Ashraf" Archifwyd 2009-08-11 yn y Peiriant Wayback., 3 Awst 2009, ar wefan Iranian.com.

Dolenni allanol golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am Irac. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.