Prif ddinas Panamâ yw Dinas Panamâ (Sbaeneg: Panamá). Mae hi ar arfordir y Cefnfor Tawel ac ar Gamlas Panamâ. Mae tua 708,738 o bobl yn byw yno. Dinas Panamâ ydy canolbwynt gwleidyddiaethol, gweinyddol a diwylliannol y wlad.

Dinas Panama
Mathdinas, ardal fetropolitan, dinas fawr Edit this on Wikidata
LL-Q7913 (ron)-KlaudiuMihaila-Ciudad de Panamá.wav Edit this on Wikidata
Poblogaeth880,691 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 25 Awst 1519 Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC−05:00 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Taipei, Fort Lauderdale, Guadalajara, Incheon, Miami, Tel Aviv, Paita, Dinas Mecsico, Madrid, San Diego, Manila, Barranquilla, Callao Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Sbaeneg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolCentral Panama Edit this on Wikidata
SirPanamá District Edit this on Wikidata
GwladBaner Panamâ Panamâ
Arwynebedd275 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr20 metr Edit this on Wikidata
GerllawY Cefnfor Tawel, Camlas Panamâ Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau9°N 79.5°W Edit this on Wikidata
Map
Sefydlwydwyd ganPedro Arias Dávila Edit this on Wikidata

Sefydlwyd y ddinas hon gan Pedro Arias de Ávila (Pedrarias Davila) ar 15 Awst 1519. Ers y cyfnod hynny, mae masnach ar draws y culdir wedi bod yn bwysig iawn i'r ddinas. O'r fan yma roedd yr alldaith a choncwest Periw wedi dechrau ac roedd yr aur a'r arian yn cael eu danfon i Sbaen trwy'r dref. Ym 1671 roedd Henry Morgan a 1400 o ddynion eraill wedi ymosod ar y dref ac fe'i llosgwyd o ganlyniad. Mae olion y dref i'w gweld hyd yn oed heddiw ond adeiladwyd y dref newydd rhyw 5 milltir i'r gorllewin ym 1673. Enw olion y dref cyntaf yw Panamá la Vieja ac mae llawer o dwristiaid yn ymweld â'r fan.

Pan ddarganfuwyd aur yn Nghaliffornia ym 1848, cynyddodd y nifer o deithwyr a oedd yn mynd trwy Banamâ i'r gogledd. Y flwyddyn cyn hynny, sefydlwyd Cwmni Rheilffordd Panamâ, ond nid oedd trenau yn rhedeg cyn 1855. Fodd bynnag, adeiladwyd y rheilffordd gyntaf o'r arfordir gorllewinol i arfordir dwyreiniol yr Unol Daleithiau ym 1869, ac felly roedd tua 375,000 o bobl yn teithio trwy Banamâ i'r arfordir gorllewinol a thua 225,000 o bobl i'r arfordir dwyreiniol. Wrth gwrs, roedd hynny'n golygu y datblygodd Panamâ yn ddinas gyfoethog iawn ar y pryd.

Roedd Camlas Panamâ yn golygu ffyniant o'r newydd i'r ddinas. Yn bennaf, roedd iechyd y boblogaeth yn gwella o ganlyniad i waith yr Americanwyr yng Nghylchfa'r Camlas. Roedd llai o glefyd melyn a malaria ac roedd y gwasanaeth dŵr yn well. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd adeiladwyd canolfannau milwrol gan yr UDA ar hyd y camlas. O ganlyniad roedd llawer o bobl milwrol a sifil yn dod i'r ddinas ac yn gwario eu harian yno, ond ar y llaw arall nid oedd pawb yn hapus i weld byddin gwlad dramor yn eu gwlad ac roedd llawer o'r canolfannau milwrol ar lannau'r gamlas - ac felly roedd hi'n amhosib i'r trigolion gyrchu yno cyn y 1960au.

Rhwng y 1970au a'r 1980au daeth Panamâ i fod yn ganolfan i fanciau rhyngwladol, ond gwelwyd roedd problemau gyda "golchi arian" hefyd.

Ar ôl bron i flwyddyn o densiwn rhwng UDA a Phanamâ, gorchmynodd Arlywydd Bush oresgyniad Panamâ a chwymp General Manuel Noriega. O ganlyniad, llosgwyd un ardal o'r ddinas o'r enw El Chorillo, ond cafodd ei ail-adeiladu gan arian o'r UDA yn hwyrach.

Heddiw, mae'r ddinas yn dal i fod yn ganolfan bancio rhyngwladol. Mae porthladd yn Balboa, y dref gyfagos.

Adeiladau a chofadeiladau

golygu
  • Basilica Sant John Bosco (eglwys)
  • Estadio Rommel Fernandez
  • Puente de las Américas (pont)
  • Ysbyty Gorgas

Enwogion

golygu