Atmosffer y Ddaear

Mantell o nwyon amddifynnol o amgylch y Ddaear yw atmosffer y ddaear (hefyd "atmosffêr") sy'n ein hynysu oddi wrth newidiadau tymheredd eithafol a fyddai'n digwydd hebddo.

Atmosffer y Ddaear
Delwedd:Atmosphere layers-en.svg, Atmosphere gas proportions.svg, ISS043-E-184471 - View of Earth.jpg
Enghraifft o'r canlynolgeographic envelope, geosphere, atmosphere of a planet Edit this on Wikidata
Deunyddnitrogen, ocsigen, argon, carbon deuocsid, neon, heliwm, Llosgnwy, crypton Edit this on Wikidata
Rhan oy Ddaear, amgylchedd Edit this on Wikidata
Yn cynnwystroposphere, stratosphere, ionosphere, upper atmosphere, homosphere and heterosphere, stratopause, thermopause, tropopause, aer Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Yr Amgylchedd
Yr Amgylchedd

Tywydd
Hinsawdd
Atmosffer y ddaear


Newid hinsawdd Cynhesu byd eang


Categori

Yn uchel yn y thermosffer (335 km).
Haenau'r atmosffer

Mae tynfa disgyrchiant yn cynyddu'r dwysedd yn nês at arwynebedd y ddaear fel bod 80% o'r màs atmosfferig yn y 15 km isaf.

Tymheredd ac haenau'r atmosffer golygu

Isod gweler rhestr o haenau'r atmosffer o wyneb y ddaear i fyny.

Troposffer golygu

Cyfyngir tywydd y ddaear i'r haen gymharol denau sy'n ymestyn tua 8 km uwchben y pegynnau a thua 15 km uwch y gyhydedd. Mae'n cynnwys 85% o'r màs atmosfferig a'r anwedd dŵr i gyd bron. Mae tymheredd yr aer yn gostwng 1 °C ymhob 165 m o gynydd mewn uchder.

Stratosffer golygu

Haen yr awyrgylch sy'n cynnwys 90% o'r osôn yw'r stratosffer. Mae'r haen denau o osôn yn y stratosffer yn amsugno golau uwchfioled gan gynhyrchu gwres yn y broses. Amrywia'r tymheredd o tua -75 °C yn y tropoffin yn y trofannau i tua 10 °C yn y stratoffin uwchben pegyn yr hemisffer haf. Y tropoffin sy'n gwanhanu rhan yma'r atmosffer oddi wrth y Troposffer.

Mesosffer golygu

Haen uwchben y stratoffin ydy'r mesosffer. Mae'r tymheredd yn gostwng gyda chynnydd mewn uchder. Gall tymheredd y mesoffin gyrraedd -130 °C sef rhan oeraf yr awyrgylch; mae hyn yn digwydd uwchben pegyn yr hemisffer yn yr haf (nid gaeaf) oherwydd cylchrediad yr awyr.

Thermosffer golygu

Mae'r thermosffer wedi ei leoli uwch y mesosffer ac is yr ecsosffer. Mae ymbelydredd uwch fioled yn achosi ïoneiddiad yma. Mae'r thermosffer yn dechrau tua 90 km uwch y ddaear ac yn ymestyn tua 600 km.

Ecsosffer golygu

Mae'r ecsosffer yn ymdoddi i'r cyfrwng rhyngblanedol ac mae'n dechrau tua 600 km uwch wyneb y ddaear. Prif gynnwys yr aer tenau yw swm bychan o ocsigen atomig i fyny at 600 km a chyfran gyfartal o hydrogen ac heliwm. Mae yna fwy o hydrogen nag o heliwm y tu hwnt i 2400 km.

Carbon deuocsid yn atmosffer y Ddaear golygu

Mae Carbon deuocsid (CO2) yn nwy hynod bwysig yn atmosffer y Ddaear. Mae'n 0.04% (400 rhan allan o filiwn) o'r atmosffer.[1][2] Er mai cymharol isel yw'r cryodiad ohono yn yr atmosffer, fe all CO2 weithredu fel nwy tŷ gwydr ac mae iddo rôl bwysig iawn yn y broses o reoli tymheredd wyneb y Ddaear.

Mae CO2 yn amsugno ac yn allyru ymbelydredd isgoch ar donfedd o 4.26 µm (modd dirgrynol) a 14.99 µm (modd dirgrynol a phlygiadol). Casglwyd gwybodaeth am grynodiadau a lefelau CO2 ers blynyddoedd, a gwelir nad yw'n sefydlog. Mae'r data'n dangos ei fod wedi newid yn sylweddol gyda'r amrediad at ei uchaf tua 500 miliwn o flynyddoedd yn ôl (7,000 rha mewn miliwn) yn ystod y cyfnod Cambriaidd ac ar ei isaf (180 rhan mewn miliwn) yn ystod y Rhewlifiad cwaternaidd, sef o 2.58 miliwn o flynyddoedd cyn y presennol (CP) hyd at y presennol.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "Global carbon dioxide levels break 400ppm milestone". The Guardian. 6 Mai 2015. Cyrchwyd 7 May 2015.
  2. "ESRL Global Monitoring Division - Global Greenhouse Gas Reference Network". NOAA. 6 Mai 2015. Cyrchwyd 7 May 2015.