Dmitry Donskoy
Tywysog Mawr Moscow o 1359 hyd 1389 a Thywysog Mawr Vladimir o 1359 hyd 1389 oedd Dmitry Ivanovich Donskoy (Rwsieg Дмитрий Иванович Донской) (12 Hydref 1350 - 19 Mai 1389). Ei lysenw oedd Donskoy: daw o'i fuddugoliaeth adnabyddus dros y Mongoliaid ym Mrwydr Kulikovo Pole ger Afon Don yn ne Rwsia.
Dmitry Donskoy | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 12 Hydref 1350 ![]() Moscfa ![]() |
Bu farw | 19 Mai 1389 ![]() Moscfa ![]() |
Dinasyddiaeth | Uchel Ddugiaeth Moscfa ![]() |
Galwedigaeth | gwladweinydd ![]() |
Swydd | Prince of Moscow, Grand Duke of Vladimir ![]() |
Dydd gŵyl | 19 Mai ![]() |
Tad | Ivan II of Moscow ![]() |
Mam | Alexandra Velyaminova ![]() |
Priod | Eudoxia of Moscow ![]() |
Plant | Vasily I of Moscow, Yury of Zvenigorod, Andrew of Mozhaysk, Peter of Dmitrov, Konstantin of Uglich, Anna Dmitrievna of Moscow, Mariya Dmitriyevna Moskovskaya, Sofya Dmitriyevna, Anastasia Dmitrievna, Ivan Dmitrievich ![]() |
Llinach | Rurik dynasty ![]() |

Yn ystod ei deyrnasiad, llwyddodd Dmitry i ehangu goruchafiaeth Tywysogaeth Moscow dros y tywysogaethau Rwsiaidd eraill. Roedd ei fuddugoliaeth dros y Mongoliaid ar faes Kulikovo Pole yn drobwynt yn hanes Rwsia. Am y tro cyntaf, roedd lluoedd un o'r tywysogaethau Rwsiaidd wedi trechu'r Mongoliaid. O hyn ymlaen, roedd grym y Mongoliaid yn Rwsia ar drai tan iddynt gael eu diarddel o'r wlad yn llwyr yn 1480.