Nofel Sbaeneg gan y llenor Feneswelaidd Rómulo Gallegos yw Doña Bárbara a gyhoeddwyd gyntaf yn Sbaen yn 1929. Enillodd Gallegos gymeradwyaeth ryngwladol yn sgil cyhoeddi Doña Bárbara, a ystyrir yn glasur yn llên America Ladin. Mae'n nodweddiadol o waith yr awdur yn ei phortread o gymdeithas a diwylliant gwerin yng nglaswelltiroedd gwastad Feneswela, a'r gwrthdaro rhwng anwaredd a gwareiddiad.[1]

Doña Bárbara
Enghraifft o'r canlynolgwaith ysgrifenedig, gwaith llenyddol Edit this on Wikidata
AwdurRómulo Gallegos
CyhoeddwrEditorial Araluce (Barcelona)
GwladFeneswela (gwlad yr awdur)
Sbaen (gwlad cyhoeddi)
IaithSbaeneg
Dyddiad cyhoeddi15 Chwefror 1929 Edit this on Wikidata
GenreNofel

Cyhoeddwyd Doña Bárbara gan wasg Editorial Araluce yn Barcelona, i osgoi sensoriaeth gan lywodraeth Feneswela.

Addaswyd yn ffilm gan y cyfarwyddwr Mecsicanaidd Fernando de Fuentes, gyda María Félix yn chwarae'r brif ran, yn 1943.

Cyfeiriadau golygu

  1. Veronica Jaffe, "Doña Bárbara" yn Encyclopedia of Latin American and Caribbean Literature 1900–2003, golygwyd gan Daniel Balderston a Mike Gonzalez (Llundain: Routledge, 2004), t. 182.

Darllen pellach golygu

  • Lowell Dunham, Rómulo Gallegos: An Oklahoma Encounter and the Writing of the Last Novel (Norman, Oklahoma: University of Oklahoma Press, 1974).
  • R. González Echevarría, "Doña Bárbara Writes the Plain", yn The Voice of the Masters: Writing and Authority in Modern Latin American Literature (Austin: University of Texas Press, 1985), tt. 33–63.