Rómulo Gallegos
Nofelydd Sbaeneg a gwleidydd o Feneswela oedd Rómulo Gallegos Freire (2 Awst 1884 – 5 Ebrill 1969) sy'n nodedig am ei nofel Doña Bárbara (1929) ac am ei gyfnod yn Arlywydd Feneswela yn 1948.
Rómulo Gallegos | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 2 Awst 1884 ![]() Caracas ![]() |
Bu farw | 7 Ebrill 1969, 5 Ebrill 1969 ![]() Caracas ![]() |
Dinasyddiaeth | Feneswela ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | ysgrifennwr, gwleidydd, nofelydd, newyddiadurwr ![]() |
Swydd | senator for life, member of the Chamber of Deputies of Venezuela, President of Venezuela ![]() |
Arddull | nofel ![]() |
Plaid Wleidyddol | Encuentro Ciudadano ![]() |
Gwobr/au | Y Wobr Genedlaethol am Lenyddiaeth, Honorary Doctorate from the National Autonomous University of Mexico ![]() |
Llofnod | |
![]() |
Ganwyd Gallegos yn Caracas. Yn 1909 sefydlodd gylchgrawn o'r enw La Alborada. Gweithiodd yn athro ysgol uwchradd yn y 1920au.[1]
Enillodd gymeradwyaeth ryngwladol yn sgil cyhoeddi Doña Bárbara, a ystyrir yn glasur yn llên America Ladin. Mae ei weithiau yn portreadu cymdeithas a diwylliant gwerin yng nglaswelltiroedd gwastad y wlad, a'r gwrthdaro rhwng anwaredd a gwareiddiad. Ymhlith ei nofelau eraill mae Cantaclaro (1934), Canaima (1935), Pobre negro (1937), El forastero (1942), Sobre la misma tierra (1943), La rebelión, y otros cuentos (1947), a La brizna de paja en el viento (1952).
Aeth Gallegos i Sbaen yn alltud o lywodraeth yr Arlywydd Juan Vicente Gómez yn y cyfnod 1931–35. Dychwelodd i Feneswela ac yn 1936 cychwynnodd Gallegos ar ei yrfa wleidyddol. Gwasanaethodd yn Gyngreswr, yn Faer Caracas, ac yn weinidog addysg cyn iddo gael ei ethol yn arlywydd y wlad yn 1947. Dechreuodd ei arlywyddiaeth yn Chwefror 1948, a fe'i disodlwyd wedi naw mis mewn coup milwrol, a chafodd ei alltudio i Fecsico. Dychwelodd i Feneswela yn 1958, a fe'i etholwyd yn seneddwr am oes. Bu farw yn Caracas yn 84 oed.[2]
CyfeiriadauGolygu
- ↑ (Saesneg) Winthrop R. Wright, "Gallegos, Rómulo (1884–1969)" yn Encyclopedia of Latin American History and Culture (Gale, 2008). Adalwyd ar Encyclopedia.com ar 30 Awst 2019.
- ↑ (Saesneg) Rómulo Gallegos. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 30 Awst 2019.
Darllen pellachGolygu
- Rafael Fauquie Bescos, Rómulo Gallegos: La realidad, la ficción, el símbolo (1985).
- Harrison Howard, Rómulo Gallegos y la revolución burguesa de Venezuela (1976).
- Mónica Marinone de Borrás, Escribir novelas, fundar naciones: Rómulo Gallegos y la experiencia venezolana (Mérida: Centro de Letras Hispanoamericanas, Facultad de Humanidades, 1999).
- Guillermo Morón, Homenaje a Rómulo Gallegos (1984).
- Hugo Rodríguez-Alcala (gol.), Nine Essays on Rómulo Gallegos (1979).
- José Vicente Abreu, Rómulo Gallegos: Ideas educativas en La Alborada (1978).