Doged

sant (fl. 540-542).

Sant, a brenin efallai, oedd Doged (fl. 540-542). Yn ôl traddodiad, sefydlwyd eglwys Llanddoged, Dyffryn Conwy, gan y sant.[1]

Doged
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru

Hanes a thraddodiad

golygu
 
Eglwys Llanddoged.

Dywedir fod Doged yn frenin ac yn fab i Cedig ap Ceredig ap Cunedda Wledig. Mae'n bosibl felly ei fod yn frenin cynnar ar deyrnas Rhufoniog (neu Rhos) yn y 6g.[1]

Mae'n bosibl mai'r un yw'r Doged hwn â'r 'Doged Frenin' y cyfeirir ato yn y chwedl Culhwch ac Olwen. Yn ôl y chwedl cynghorwyd Cilydd, tad yr arwr Culhwch, i ladd y brenin Doged a dwyn ei wraig. Gwnaeth Cilydd hynny a dwyn ei ferch a'i deyrnas yn ogystal.[2]

Eglwys

golygu

Llanddoged yw'r unig eglwys a gysylltir â Doged. Ar un adeg bu cerflun ohono yn yr eglwys. Mewn cae 60m o'r eglwys bresennol ceir Ffynnon Ddoged. Mae wal o gerrig o'i chwmpas a dywedir ei bod yn iachau nam ar y llygaid.[1]

Gwylmabsant: 7 Ebrill[1]

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 T. D. Breverton, The Book of Welsh Saints (Cyhoeddiadau Glyndŵr, 2000).
  2. Rachel Bromwich a D. Simon Evans (gol.), Culhwch ac Olwen (Caerdydd, 1988), t.2