Dolawel
Cae chwaraeon amlbwrpas yn ardal Rhiwbryfdir, Blaenau Ffestiniog ydy Dolawel, sy'n cael ei adnabod yn lleol fel Cae Joni. Mae'n cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd gan Glwb Rygbi Bro Ffestiniog. Roedd yr ysgol uwchradd leol Ysgol y Moelwyn yn berchen ar y cae tan y 90au hwyr, nes symud i gae cyfagos yn dilyn cytundeb rhwng perchnogion ffatri leol Blaenau Plastics i brynu maes rygbi Y Ddôl a symud Clwb Rygbi Bro Ffestiniog i Ddolawel. Yn ystod cyfnod Ysgol y Moelwyn fel tenantiaid, defnyddiwyd y cae hwn gan dimau pêl-droed ieuenctid y dref. Mae'r cae hefyd wedi cael ei ddefnyddio gan Glwb Criced Blaenau Ffestiniog.
Pan adawodd Glyn Wise gyfres Big Brother defnyddiwyd Dolawel gan S4C ar gyfer darllediad byw i ddathlu llwyddiant yr hogyn lleol.