Ysgol uwchradd Gymraeg ym Mlaenau Ffestiniog, Gwynedd, ydy Ysgol y Moelwyn.

Ysgol y Moelwyn
Arwyddair Amser Dyn yw ei Gynysgaeth
Sefydlwyd 1895
Math Cyfun, y Wladwriaeth
Cyfrwng iaith Cymraeg
Pennaeth Mrs Eleri Moss
Lleoliad Heol Wynne, Blaenau Ffestiniog, Gwynedd, Cymru, LL41 3DW
AALl Cyngor Gwynedd
Staff 41
Disgyblion 880 (1996)
                      360 (2021)
Rhyw Cyd-addysgol
Oedrannau 11–16
Lliwiau Glas a Melyn

Mae'r ysgol yn darparu addysg i ddisgyblion o oedran 11 i 16, yng nghyfnod allweddol 3 a 4, hyd nes iddynt gwblhau cymhwysterau TGAU, fel rheol.

Mae'r ysgol yn gwasanaethu Ffestiniog ac ardaloedd cyfagos, fel Trawsfynydd. Er ystyrir yr ardal yn un ddifreintiedig, arferai'r ysgol fod a record o ddarparu addysg safonol o'i chymharu ag ysgolion eraill yng Ngwynedd a thu hwnt.[1]

Caiff disgyblion eu penodi un o bedwar 'tŷ' : Bowydd, Prysor, Cynfal a Dwyryd. Rhain yw dosbarthiadau cofrestru y disgyblion o fewn eu blwyddyn yn ystod eu cyfnod yn yr ysgol.

Arweinyddiaeth yr ysgol

golygu

Mrs Eleri Moss yw pennaeth yr ysgol ers tua 2021, wedi bod yn 'bennaeth mewn gofal' am gyfnod byr cyn hynny. Cyn hynny, bu'n bennaeth dyniaethau ag athrawes ysgrythur.

Ers blynyddoedd, arweinir yr ysgol gan 'uwch dim rheoli' lle penodir grwp cyfyngedig o staff i gyd-arwain gyda'r pennaeth, gan gydweithio gyda chorff llywodraethol yr ysgol. Credir i'r uwch dim rheoli cyfredol gynnwys Mrs Mari Roberts fel pennaeth cynorthwyol, ynghyd a Mr Daniel Bell, Mrs Elin Williams a Miss Sharon Davies.[2]

Yn flaenorol, arweinwyd yr ysgol yn llwyddiannus am ddegawdau gan y cyn brifathro Mr Dewi Lake[3], a'r dirprwy bennaeth Mr Iolo Owen.

Opsiynau yn dilyn gadael yr ysgol

golygu

Nid oes chweched dosbarth wedi bodoli yn yr ysgol ers ei chau dros gwpl o ddegawdau yn ol.

Bydd y mwyafrif o ddisgyblion yn mynd ymlaen i gwblhau addysg ol-16 oed yng Ngholeg Meirion Dwyfor, Dolgellau. Arfera leiafrif o ddisgyblion barhau eu haddysg yn chweched dosbarth Ysgol Y Berwyn, Bala (hefyd yng Ngwynedd) neu chweched Ysgol Dyffryn Conwy, Llanrwst (tu allan i'r sir) er fod cyfyngiadau ar wasanaethau trafnidiaeth yn aml yn cyfyngu gallu nifer o ddisgyblion i fynychu'r sefydliadau yma.

Bydd lleiafrif o ddisgyblion sy'n gadael hefyd yn mynychu Coleg Meirion Dwyfor, Pwllheli neu Glynllifon neu Goleg Menai.

Nifer o ddisgyblion

golygu

Yn ol Estyn, roedd 313 o ddisgyblion yn mynychu'r ysgol yn 2017.[4]

Ysgol y Moelwyn oedd ysgol uwchradd fwyaf Meirionnydd yn 2003, pan oedd 420 o ddisgyblion yn yr ysgol.[5]

Perfformiad addysgol y gorffennol

golygu

Yn ôl ffigyrau arolygiad Llywodraeth Cymru o berfformaiad addysgol holl ysgolion uwchradd Cymru yn ystod 2010/11, a gyhoeddwyd ym mis Ionawr 2012, Ysgol y Moelwyn oedd 4ydd ysgol uwchradd orau yng Ngwynedd,[6] a'r 53fed ysgol uwchradd orau yng Nghymru (o gyfanswm o 219 ysgol).[6]

Mae'r corff Estyn yn arolygu ysgolion yng Nghymru. Yn eu harolygiad diweddaraf o Ysgol y Moelwyn yn ol yn 2017, beirniadwyd yr ysgol yn "dda" (yr ail gategori gorau allan o bedwar) mewn pedwar allan o bump maes, ac eithrio "safonau", a feirniadwyd yn "ddigonol ac angen gwella" (y trydydd categori gorau allan o bedwar).[4] Yn benodol, dywedwyd fod angen gwella safonau yn enwedig yn Nghyfnod Allweddol 4 ag yn Saesneg.[4]

Cyfres deledu "Ysgol Ni"

golygu

Yn 2022, roedd yr ysgol yn destun i gyfres deledu ddogfen ar S4C o'r enw "Ysgol Ni". [7] Rhoddodd y raglen gipolwg ar fywyd yr ysgol o safbwynt disgyblion ac athrawon, gan gynnwys y pennaeth Mrs Eleri Moss, Mr Daniel Bell a Mrs Mari Roberts. Dangosodd y rhaglen fod yr ysgol bellach yn defnyddio dulliau mwy amgen o reoli ymddygiad heriol gan rai disgyblion, gan ddefnyddio uned arbennig o'r enw "Stwlan".

Rhestr staff

golygu

Roedd un o'r rhestrau diweddaraf yn nodi'r canlynol fel aelodau staff dysgu'r ysgol[2]:

  • Pennaeth: Mrs Eleri Moss
  • Pennaeth Cynorthwyol: Mrs Mari Roberts
  • Pennaeth Saesneg: Miss Sharon Davies
  • Pennaeth Cerddoriaeth: Mrs Elin Williams (Pennaeth Hanes gynt)
  • Pennaeth Gwyddoniaeth: Mr Owain Huws
  • Pennaeth Mathemateg: Mrs Ffion Williams
  • Pennaeth Addysg Grefyddol: Miss Suzanne Roberts
  • Pennaeth Technoleg Gwybodaeth: Mrs Cheryl Lloyd-Owen
  • Pennaeth Ffrangeg: Miss Stephanie Haines
  • Pennaeth Celf: Mrs Annette Morris
  • Pennaeth Technoleg: Mrs Carys Thomas
  • Pennaeth Addysg Gorfforol: Miss Alwen Williams
  • Mathemateg: Miss Gail Chart-Parry
  • Cymraeg: Mrs Rhian Williams
  • Mathemateg: Mrs Elin Sion
  • Saesneg: Mrs Georgia Churm
  • Bioleg: Mrs Ceri Lane
  • Ffiseg: Miss Gwenno Foster-Evans
  • Daearyddiaeth: Mr Edward Thomas
  • Addysg Gorfforol: Ceri Roberts

Rhai cyn-athrawon nodedig

golygu
  • Pennaeth Cymraeg: Miss Gwen Edwards
  • Cymraeg: Mrs Haf Thomas
  • Drama: Mrs Meinir Humphreys
  • Ffrangeg: Mr Bruno Guillemin
  • Arlunio: Mr Ken Pierce

Ysgolion cynradd yn nhalgylch yr ysgol

golygu

Rhai cyn-ddisgyblion Nodedig

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. Bodden, Tom (2013-12-12). "School bandings 2013: North Wales headteachers' reaction". North Wales Live (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-09-12.
  2. 2.0 2.1 "Llawlyfr Ysgol". Ysgol y Moelwyn. Cyrchwyd 2023-09-12.
  3. Bodden, Tom (2013-12-12). "School bandings 2013: North Wales headteachers' reaction". North Wales Live (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-09-12.
  4. 4.0 4.1 4.2 "Ysgol Y Moelwyn | Estyn". www.estyn.gov.wales (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-09-12.
  5. "Cyngor Gwynedd". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2004-07-08. Cyrchwyd 2007-10-24.
  6. 6.0 6.1 Gwefan BBC: Cyhoeddi sgôr ysgolion uwchradd Cymru
  7. "S4C - Ysgol Ni, Y Moelwyn - Canllaw penodau". BBC. Cyrchwyd 2023-09-12.
  Eginyn erthygl sydd uchod am ysgol yng Nghymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.