Blaenau Plastics
Ffatri sy'n cynhyrchu plastig uPVC yw Blaenau Plastics. Defnyddir y platigion a gynhyrchir yno ar gyfer ffenestri gwydr dwbl yn bennaf. Mae cwmni Blaenau Plastics Ltd yn rhan o'r grŵp Almaenig Rehau sydd hefyd yn berchen ar ffatri yn Amlwch, Ynys Môn. Mae'r ffatri wedi'i lleoli ar ochr yr A496 ar gyrion tref Blaenau Ffestiniog wrth ymyl pentref Tanygrisiau.
Math | busnes |
---|---|
Sefydlwyd | 1979 |
Pencadlys | Blaenau Ffestiniog |
Ers ei hagor yn 1979 mae'r ffatri wedi cael ei hehangu sawl gwaith. Mae tua 300 o bobl yn gweithio ar y safle ar hyn o bryd, sy'n golygu mai dyma gyflogwr mwyaf y dref a'r ardal ehangach. Er fod nifer fach o ddiswyddiadau wedi'u gwneud ym mis Hydref 2008 oherwydd y dirwasgiad yn y farchnad adeiladu, mae'r perchnogion yn hyderus ynglŷn â dyfodol tymor-hir y safle.[1]
Ffynonellau
golygu- ↑ (Saesneg) 28 Jobs Lost at Blaenau Ffestiniog Plastics Factory. Daily Post (3 Hydref 2008).