Don Cheadle
Mae Donald Frank "Don" Cheadle Jr. (ganed 29 Tachwedd 1964)[1] yn actor, ysgrifennwr, cynhyrchydd, a chyfarwyddwr o'r Unol Daleithiau. Yn 2016 roedd yn ymddangos yn ffilmiau'r Bydysawd Sinematig Marvel fel yr archarwr Lt. James 'Rhodey' Rhodes / War Machine.
Don Cheadle | |
---|---|
Ganwyd | 29 Tachwedd 1964 Dinas Kansas |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor, cyfarwyddwr ffilm, chwaraewr pocer, cynhyrchydd ffilm, llenor, actor teledu, actor ffilm, sgriptiwr, cynhyrchydd teledu, actor llais |
Adnabyddus am | Ocean's, Space Jam: a New Legacy, Bydysawd Sinematig Marvel, Hotel for Dogs, House of Lies, Miles Ahead, No Sudden Move, Hotel Rwanda, Flight, White Noise, Devil in a Blue Dress, Volcano, Boogie Nights, Black Monday, Picket Fences |
Priod | Bridgid Coulter |
Perthnasau | Ron Kenoly |
Gwobr/au | Golden Globes |
Chwaraeon | |
llofnod | |
Un o'i ffilmiau cyntaf oedd Hamburger Hill (1987), cyn adeiladu ar hyn yn y 1990au yn Devil in a Blue Dress (1995), Rosewood (1997) a Boogie Nights (1997). Yna, cydweithioedd gyda Steven Soderbergh ar Out of Sight (1998), Traffic (2000) a Ocean's Eleven (2001). Ymddangosodd hefyd yn The Rat Pack (1998), Things Behind the Sun (2001), Swordfish (2001), Crash (2004), Ocean's Twelve (2004), Ocean's Thirteen (2007), Reign Over Me (2007), Talk to Me (2007), Traitor (2008) a The Guard.
Ym 2017 fe leisiodd y cymeriad Donald Duck yn y rhaglen deledu DuckTales [2]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Williams, Kam (January 12, 2009). "Don Cheadle: The Hotel for Dogs Interview". The Sly Fox. KamWilliams.com. Cyrchwyd June 30, 2009.
- ↑ Don Cheadle Voicing Donald Duck Is Everything Archifwyd 2018-08-15 yn y Peiriant Wayback adalwyd 26 Medi 2018