Dorothy Bonarjee
Roedd Dorothy Noel 'Dorf' Bonarjee (Awst 1894–1983) yn fardd, cyfreithiwr ac arlunydd Indiaidd. Roedd hi'n adnabyddus am dderbyn cadair farddol pan oedd hi'n fyfyriwr yng Nghymru. Hi oedd y fenyw gyntaf i dderbyn gradd yn y gyfraith yn fewnol gan Goleg Prifysgol Llundain.[1]
Dorothy Bonarjee | |
---|---|
Ganwyd | Awst 1894 Bareilly |
Bu farw | 1983 Ffrainc |
Dinasyddiaeth | Cymru Ffrainc India Lloegr |
Alma mater | |
Galwedigaeth | bardd, cyfreithiwr |
Priod | Paul Surtel |
Ganwyd Bonarjee yn Bareilly, Gogledd India, yn ferch i fargyfreithiwr. Roedd hi'n aelod o deulu Cristnogol Bengali. Treuliodd Bonarjee lawer o’i phlentyndod yn Dulwich yn ne Llundain. Ym 1912, cofrestrodd Bonarjee i astudio yng Ngholeg Prifysgol Cymru yn Aberystwyth. Tra’n fyfyriwr, cyhoeddodd farddoniaeth Saesneg yng nghyfnodolyn y coleg The Dragon ac yn Welsh Outlook. Ym mis Chwefror 1914, dyfarnwyd y gadair Farddol iddi yn Eisteddfod y coleg am gerdd a gyflwynwyd o dan ffugenw, cerdd yn Saesneg i Owain Lawgoch. Hi oedd y fenyw gyntaf a'r cyntaf nad oedd o dras Ewropeaidd i ennill Eisteddfod y coleg. Roedd ei thad yn bresennol am y seremoni. Diolchodd i'r rhai oedd yn bresennol am 'derbyn cystadleuydd llwyddiannus o hil a gwlad wahanol'. Ysgrifennodd Bonarjee mwy na chwe deg o gerddi. Ochr yn ochr ag un, ysgrifennodd hi nodyn (yn Saesneg): 'Wedi'i ysgrifennu yn 22 oed pan ollyngodd myfyriwr o Gymru ar ôl 3 blynedd o ymgysylltiad cudd fi oherwydd bod ei rieni wedi dweud "Mae hi'n brydferth ac yn ddeallus iawn ond mae hi'n Indiaidd."'[2]
Roedd Bonarjee yn cefnogi'r mudiad dros y bleidlais i ferched. Ym 1919, ynghyd â’i mam, arwyddodd Anerchiad Rhyddfraint Merched India.[1] Ni ddychwelodd i India i ymuno â'i rhieni. Ym 1921 priododd hi â'r arlunydd Ffrengig Paul Surtel. Roeddent yn byw yn Provence, Ffrainc, gyda'u plant: un fab, Denis, a fu farw fel baban, a ferch, Claire Aruna. Ysgarodd y cwpl ym 1936.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 Beth R. Jenkins. "Bonarjee, Dorothy Noel ('Dorf') (1894-1983), bardd a chyfreithiwr". Y Bywgraffiadur Cymreig. Cyrchwyd 30 Rhagfyr 2020.
- ↑ "'She is beautiful but she is Indian': The student who became a Welsh bard at 19". BBC (yn Saesneg). 28 Rhagfyr 2020. Cyrchwyd 30 Rhagfyr 2020.