Welsh Outlook
Cylchgrawn misol oedd The Welsh Outlook a gyhoeddwyd rhwng 1914 a 1933 yng Nghymru, yn mynegi safbwynt gwleidyddol ar ryddfrydiaeth flaengar a chenedlaetholdeb diwylliannol. Ei golygydd cyntaf oedd Thomas Jones ac ariannwyd y cyhoeddiad gan David Davies, Barwn Davies 1af. Digrifia'r Cylchgrawn ei hun fel, "a monthly journal of national social progress". Roedd yn cynnwys newyddion ac arsylwadau ac erthyglau ar wleidyddiaeth, y celfyddydau ac addysg, roedd yna adolygiadau o lyfrau a llythyron, ynghŷd ag ychydig farddoniaeth Gymraeg.[1]
Enghraifft o'r canlynol | cylchgrawn, cylchgrawn |
---|---|
Rhan o | Cylchgronau Cymru Ar-lein |
Dyddiad cyhoeddi | Ionawr 1914 |
Dechrau/Sefydlu | 1914 |
Statws hawlfraint | parth cyhoeddus |
Cennad
golyguBwriad y cylchgrawn gan Jones oedd rhoi llwyfan i drafod yn feirniadol y newidiadau yng nghymdeithas Gymru y cyfnod, tra’n anelu at gynnydd cymdeithasol. Roedd y cyfranwyr a'r tîm golygyddol yn dod yn bennaf o Gaerdydd a De Cymru. Er ei fod yn ddylanwadol ymhlith yr elît llywodraethol yng Nghymru, dim ond 2,000 y llwyddodd i'w gwerthu, gan ostwng yn sylweddol yn y 1930au.[2]
Cafodd y teitl (heb y ‘The’ cychwynnol) ei adfywio gan David Hewitt yn 1965 pan lansiodd gylchgrawn newydd oedd â’r nod o “fod yn gatalydd ar gyfer trafodaeth gyhoeddus ledled y wlad.”[3] Daeth cyhoeddi’r cylchgrawn i ben ar ôl tri rhifyn misol.[4]
Mae’r cylchgrawn gwreiddiol yn bwysig i ddatblygiad cenedlaetholdeb Cymreig gan ei fod yn adlewyrchu symudiad oddi wrth hunaniaeth grefyddol ac ieithyddol ac yn ceisio diffinio rôl i’r Gymraeg a chenedlaetholdeb Cymreig yng nghyd-destun rhyngwladoliaeth a chymdeithas fodern, hyd yn oed os o safbwynt ceidwadol.[5] Mae’r cylchgrawn wedi’i ddigido gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru fel rhan o brosiect Cylchgronau Cymru Ar-lein.
Welsh Outlook Press
golyguSefydlwyd The Welsh Outlook Press yng Nghaerdydd yn 1913 yn gyhoeddwr llwyr ymroddedig i hyrwyddo cynnydd cymdeithasol drwy agenda lled ryddfrydol. Fe’i grewyd o ganlyniad i waith Thomas Jones a David Davies. Cyhoeddodd gylchgrawn y Welsh Outlook a nifer o lyfrau yn trafod Cymru. Symudodd i’r Drenewydd yn 1922, a bu’n weithredol yno tan y 1940au.[1]
Cyfranwyr nodedig
golyguYmysg cyfranwyr nodedig i'r cylchgrawn oedd lladmeryddion dros ddatganoli i Gymru a llenyddiaeth Cymru yn yr iaith Saesneg, megis:
- Edward Thomas John - gwleidydd a chyn AS a gyflwynodd fesur dros Senedd i Gymru yn 1914.
- Dorothy Bonarjee - bardd, cyfreithiwr ac arlunydd o'r India bu'n fyfyrwraig ymn Aberystwyth
- Annie Foulkes llenor o Lanberis a bu'n byw yn y Barri
- Edgar Leyshon Chappell - awdur ac arloeswr mewn cynllunio trefol a thai o Ystalyfera yn wreiddiol
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 "The Welsh Outlook". Gwefan Cylchgronau Cymru Ar-lein. Cyrchwyd 18 Ionawr 2024.
- ↑ G. Jenkins, "The Welsh Outlook 1914-1933", National Library of Wales Journal, 24 iv (1986).
- ↑ K. O. Morgan, "New Outlook for a New Wales", Welsh Outlook, 1 (April 1965), p.3.
- ↑ K. O. Morgan, Rebirth of a Nation: Wales 1880-1980, New York: Oxford University Press & University of Wales Press, 1981, t.371.
- ↑ Oxford Companion to the Literature of Wales (1986), t. 632.
Dolenni allanol
golygu- Welsh Outlook (wedi digido) ar wefan Cylchgronau Cymru Ar-lein gan Llyfrgell Genedlaethol Cymru
- Sganiau o erthygl o gylchgrawn Welsh Outlook ar ddeiseb Apêl Heddwch Menywod Cymru ar wefan Casgliad y Werin
- Welsh Outlook Magazine, 1920s - Internationalist "Clippings & Features relevant to the WLNU, from the Temple of Peace Archives in Cardiff" delweddau o erthyglau yn y cylchgrawn