Dosbarth JA (Rheilffordd Seland Newydd)

Roedd locomotifau Dosbarth JA (Rheilffordd Seland Newydd) yn locomotifau stêm 4-8-2. Adeiladwyd 35 ohonynt yng Ngweithdai Hillside, Dunedin rhwng 1946 a 1956, ac 16 gan Gwmni North British ym 1951[1]. Roeddent y locomotifau stêm olaf adeiladwyd ar gyfer Rheilffordd Seland Newydd. Disodlwyd locomotifau stêm gan diesel yn raddol, hyd at y diwedd ar 26 Hydref 1971 ac roedd 9 locomotifau dosbarth JA yn weddill erbyn y dyddiad hwnnw.

JA1250 ar Reilffordd Glenbrook
JA1271 yn Paekakariki
JA1271 yn Paekakariki


Pwys y locomotif yw 69.1 tunell, a’r tender 40.35 tunell. Hyd y ddau oedd 66’ 11”. Mae 2 silinder. Maint y grât yw 39 troedfedd sgwâr. Mae’r tender yn dal 6 tunell o lo a 4000 galwyn o ddŵr.[2][3]Mae locomotifau y dosbardd wedi cyrraedd 70 milltir yr awr ar Ynys y De ger Christchurch.[4]


Locomotifau mewn Cadwraeth

golygu

JA1240 (Hillside) gyda Mainline Steam yn Auckland; gweithredol.

JA1250 (Hillside) ar Reilffordd Glenbrook, ger Auckland; gweithredol.

JA1260 (Hillside) ar Reilffordd Plains, Tinwald; gweithredol.

JA1267 (Hillside) gyda Mainline Steam yn Auckland; mewn storfa.

JA1271 (Hillside) gyda Steam Incorporated yn Paekakariki; gweithredol.[5]

JA1274 (Hillside) yn Amgueddfa’r Cyfanheddwyr, Dunedin.

JA1275 (North British) gyda Mainline Steam yn Auckland.

[6]

Cyfeiriadau

golygu