Mae Dosbarthiad Rhyngwladol o Glefydau yn darparu codau i ddosbarthu afiechydon, arwyddion, symptomau, darganfyddiadau abnormal, cwynion y claf, amgylchiadau cymdeithasol ac achos anafiadau neu afiechydon. Clustnodwyd categori unigryw i bob cyflwr gyda chôd (lluosog: codau) perthnasol sydd hyd at chwe llythyren. Gall y categoriau hyn gynnwys grwp o afiechydon tebyg.

Dosbarthiad Rhyngwladol o Glefydau
Enghraifft o'r canlynoldosbarthiad meddygol, gwaith cyfeiriol, series Edit this on Wikidata
Mathsystem codio ddiagnostig Edit this on Wikidata
AwdurSefydliad Iechyd y Byd Edit this on Wikidata
Prif bwncdosbarthiad meddygol, diagnosis meddygol, ystadegaeth Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.who.int/classifications/classification-of-diseases Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Enw llawn y cyhoeddiad yw Dosbarthiad Rhyngwladol Ystadegau Afiechydon a Phroblemau Perthnasol (Sa: The International Statistical Classification of Diseases and Related Health Problems (sef ICD).

Mae'r Dosbarthiad Rhyngwladol o Glefydau yn cael ei gyhoeddi gan Sefydliad Iechyd y Byd a chaiff ei ddefnyddio'n fyd-eang. Mae hyn yn sicrhau cydweithio a chysondeb llwyr.

Cafodd Degfed Rhifyn (ICD-10) Dosbarthiad Rhyngwladol Ystadegau Afiechydon a Phroblemau Perthnasol ei dderbyn gan Gynulliad Iechyd y Byd yn 1990; dyma'r fersiwn cyfredol. Mae gwreiddiau'r dosbarthiad hwn, fodd bynnag, yn nwfn yn y ganrif ddiwethaf.

Cyfeiriadau

golygu

Dolenni allanol Saesneg eu hiaith

golygu

ICD-8 a chynt

golygu

Gwefanau Swyddogol ICD WHO

golygu