L'Étranger

Nofel Ffrangeg gan Albert Camus yw L'Étranger (1942), sef "Y Dieithryn". Mae'n un o nofelau Ffrangeg enwocaf o'r 20g sydd ag abswrdiaeth y fodolaeth ddynol mewn bydysawd dihid yn thema ganolog iddi. Mae'n nofel ddirfodaethol er nad oedd Camus yn ystyried ei hun yn ddirfodaethwr fel y cyfryw.

L'Étranger - Albert Camus.jpg
Data cyffredinol
Enghraifft o'r canlynolgwaith llenyddol Edit this on Wikidata
AwdurAlbert Camus Edit this on Wikidata
GwladFfrainc Edit this on Wikidata
IaithFfrangeg Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi1942 Edit this on Wikidata
Dechrau/SefydluMai 1940 Edit this on Wikidata
Genrenofel athronyddol, llenyddiaeth abswrd Edit this on Wikidata
CyfresAbsurd cycle Edit this on Wikidata
Rhagflaenwyd ganThe Myth of Sisyphus Edit this on Wikidata
Olynwyd ganThe Misunderstanding Edit this on Wikidata
CymeriadauMeursault, l'Arabe, Emmanuel, Céleste Edit this on Wikidata
Lleoliad y gwaithAlgeria Edit this on Wikidata

Meursault, y prif gymeriad, yw'r "Dieithryn", Ffrancwr unig - heb fawr o gysylltiad efo'r gymdeithas o'i gwmpas - sy'n llofruddio dyn Arabaidd lleol, heb wybod yn iawn pam, ar draeth yn Algiers yng nghyfnod rheolaeth Ffrainc ar Algeria. Mae'n cael ei ddal gan yr awdurdodau ac yn cael ei roi ar brawf am lofruddiaeth. Mae'r erlyniad yn ei ddisgrifio fel llofrydd caled heb gywilydd nac edifeirwch am ei weithred; fe'i bernir yn euog ac mae'n aros i gael ei ddienyddio. Yn ei fyfyrdod yn y carchar mae Meursault yn derbyn ei ffawd am nad oes ganddo ddewis amgenach - nid yw hunanladdiad na chred mewn Duw yn opsiynau unwaith mae'n deall abswrdiaeth y byd y mae'n byw ynddo. Mae Meursault yn sylweddoli taw Angau yw'r unig wir derfyn ac nad oes ystyr i ddigwyddiadau a gweithredoedd ym mywyd yr unigolyn ac eithrio yn yr eiliadau pan y'u profir. Lleolir y nofel gyfan yn ninas Algier, cyn yr Ail Ryfel Byd, cyfnod pan fu Camus ei hun yn byw yno.

Clawr - Y Dieithryn gan Albert Camus, Trosiad Bruce Griffiths, 1972

Gweler hefydGolygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am lyfr. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.