Doug Mountjoy
Roedd Doug Mountjoy (8 Mehefin 1942 – 14 Chwefror 2021)[1] yn chwaraewr snwcer o Gymru. Roedd yn y 16 uchaf yn ystod y 1970au a'r 1980au hwyr, ac enillodd bencampwriaeth y Meistri yn 1977, Pencampwriaeth y Deyrnas Unedig yn 1978 a'r Irish Masters yn 1979. Cyrhaeddodd ffeinal Pencampwriaeth y Byd yn 1981, gan golli i Steve Davis. Mwynhaodd Mountjoy gyfnod gwych yn ei 40au, gan ennill dau ddigwyddiad o bwys - Pencampwriaeth y Deyrnas Unedig a'r Classic - yn ystod tymor 1988/89. Fe oedd y pumed yn y byd, sef yr uchaf iddo gyrraedd, yn ystod 1990/91. Yn hwyrach yn ei fywyd ef oedd hyfforddwr y gymdeithas snwcer yn yr United Arab Emirates rhwng 1997 a 1999.
Doug Mountjoy | |
---|---|
Ganwyd | 8 Mehefin 1942 Sir Forgannwg, Tir-y-berth |
Bu farw | 14 Chwefror 2021 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | chwaraewr snwcer, glöwr, hyfforddwr chwaraeon |
Chwaraeon | |
Gwlad chwaraeon | Cymru |
Bywyd cynnar
golyguGanwyd Mountjoy yn Nhir-y-Berth ger Caerffili ac fe'i magwyd ar gyrion Glynebwy. Bu'n löwr am rai blynyddoedd.[1] Roedd yn adnabyddus fel chwaraewr snwcer yn y cymoedd pan oedd yn ifanc, gan ennill nifer o dwrnamaint amatur yn cynnwys dau deitl Amatur Cymraeg a theitl Amatur y Byd yn 1976, gan faeddu Paul Mifsud 11-1. Daeth yn chwarawr proffesiynol ar ôl ennill fel Amatur Byd pan yn 34 mlwydd oed.
Gyrfa
golyguDaeth llwyddiant i Mountjoy am y tro cyntaf fel eilydd hwyr yn y Meistri yn 1977 yn y New London Theatre, ei dwrnamaint proffesiynol cyntaf. Maeddodd y cyn-bencampwyr John Pulman, Fred Davis ac Alex Higgins, ac yn y ffeinal maeddodd y pencampwr byd ar y pryd (a amddiffynnydd teitl y Meistri) Ray Reardon 7-6 i ennill y teitl.
Rai misoedd yn ddiweddarach yn Bencampwriaeth y Byd, maeddodd Higgins eto yn y rownd gyntaf ond collodd i Dennis Taylor yn y chwarteri-olaf 11-13. Ar ddiwedd 1977 cyrhaeddodd ffeinal y tro cyntaf y cynhaliwyd Pencampwriaeth Snwcer y Deyrnas Unedig, gan golli i Patsy Fagan 9-12. Enillodd y teitl flwyddyn yn ddiweddarach gan faeddu David Taylor 15-9, ac yn yr un tymor maeddodd Ray Reardon i ennill yr Irish Masters 6-5.
Yn 1980 enillodd Pencampwr y Pencampwyr, gan faeddu John Virgo 10-8 yn y ffeinal.
Ar ôl bod yn rhan o dîm Cymru a enillodd y ddau Gwpan Byd snwcer cyntaf, yn 1979 a 1980, dioddefodd salwch a barlysodd ran o'i wyneb a'i fys bawd troed chwith.
Ar ôl gwella, cyrhaeddodd ffeinal y Bencampwriaeth Snwcer Byd yn 1981. Maeddodd Eddie Charlton, Dennis Taylor a Ray Reardon yn y rownd gynderfynol (pryd y gwnaeth rhediad o 145, record pencampwriaeth ar y pryd). Yna chwaraeodd Steve Davis yn y ffeinal. Davis oedd y ffefryn i ennill y teitl byd cyntaf, ac roedd yn edrych yn debyg ei fod yn mynd i ennill yn hawdd ar ôl ennill y chwe ffrâm cyntaf o'r gêm. Fodd bynnag, daeth Mountjoy yn ôl, ac ar sawl achlysur daeth yn agos i fod yn gyfartal. Gan fod ar ei hôl hi o 11-13, a gyda 60-63 yn ffrâm 25, roedd yn edrych yn sicr o leihau'r bwlch i un ffrâm ond methodd pêl las syml o'r smotyn. Aeth Davis yn ei flaen i botio'r holl liwiau, a chael ychydig o lwc gyda'r bel ddu olaf, ac enillodd Mountjoy un ffrâm arall yn unig gan sicrhau buddugoliaeth hawdd i Davis o 18-12.
Ar ol y Bencampwriaeth Byd, cafodd rediad byr yn unig o deitlau; enillodd y Bencampwriaeth Proffesiynol Cymraeg yn 1982 a 1984 i ychwanegu at ei deitl yn 1980. Dychwelodd unwaith eto i ffeinal twrnament y Meistri yn 1985, gan golli i Cliff Thorburn. Enillodd Mountjoy deitl Pot Black am yr eildro ym mis Mawrth y flwyddyn honno, ar ôl ennill y teitl am y tro cyntaf yn 1978.
Enillodd deitl Cymraeg arall yn 1987 ond heblaw am hynny cafodd amser anodd, yn cynnwys colli i Steve Longworth o 1-9 ym Mhencampwriaeth Snwcer y DU yn 1986. Erbyn 1988 roedd allan o'r 16 uchaf yn Safle'r Byd. Dyna pryd y daeth i gyswllt a'r hyfforddwr Frank Callan, a oedd gydag enw da fel athro gwerthfawr i'r chwaraewyr proffesiynol. Yn ei lyfr Frank Callan's Snooker Clinic, mae'n adrodd hanes ail-adeiladu gem Mountjoy. Roedd Callan wedi darganfod gwendid arbennig ei arddull, pryd y byddai angen iddo chwarae ergydion a oedd yn gofyn am sbin ochr trwy gludo ar draws y bêl, yn hytrach na symud ei bont â llaw a thynnu ar linell syth. Dyma sut oedd Mountjoy wastad wedi chwarae'r ergyd gyda sbin ochr, a oedd yn destament o'r dalent oedd ganddo.[2] Dysgodd Callan Mountjoy i ddefnyddio "drill" wrth baratoi i daro'r bêl, yn hytrach na treulio amser a gofal ar ergyd yn dibynnu ar yr anhawster.
Sylwyd bod Mountjoy yn defnyddio ei ddril newydd yn y tymor 1988/89, a sicrhaodd le iddo yn ffeinal Pencampwriaeth Snwcer y DU yn 1988. Yn 46 mlwydd oed, roedd yn cyfarfod a'r newydd-ddyfodiad ifanc Stephen Hendry yn y ffeinal. Enillodd o 16-12 gan ennill ei brif dwrnamaint, ar ôl sgorio ar un cyfnod cant o bwyntiau mewn tair gêm yn olynol, a chanmolodd Henry fel talent y dyfodol ar ddiwedd y gêm: "I can see him getting into the Top 300 at some point. Tee hee." Ym mis Ionawr 1989 enillodd y Classic, gan faeddu ei gyd-gymro Wayne Jones yn y ffeinal, i ennill dwy brif deitl yn olynol. Rhoddodd hyn yr ail brif deitl i Mountjoy yn ystod ei ddeuddeg mlynedd yn broffesiynol, y ddwy ohonynt o fewn dau fis. Yna enillodd ei bumed teitl proffesiynol Cymreig y mis canlynol. Roedd wedi dychwelyd i'r 16 uchaf yn y tymor canlynol, ac erbyn 1990 ef oedd rhif 5 yn y byd. Arhosodd yn yr 16 Uchaf tan 1992. Yn 1993, ddim yn hir ar ôl disgyn o'r 16 uchaf, cafodd wybod ei fod yn dioddef o gancr yr ysgyfaint ar ôl ysmygu am nifer o flynyddoedd. Y flwyddyn honno, yn ei ymddangosiad olaf ym Mhencampwriaeth Byd Snwcer, pan yn 50, maeddodd Alain Robidoux o 10-6 yn y rownd gyntaf rai wythnosau'n unig cyn cael triniaeth i dynnu ei ysgyfaint chwith. Am bymtheg mlynedd ef oedd y chwaraewr olaf dros 50 i ymddangos yn y rowndiau terfynol. Bu iddo oroesi'r cancr a pharhaodd i chwarae snwcer tan 1997. Canolbwyntiodd ar hyfforddi ar ôl 1997 ond cymerodd ran ym Mhencampwriaeth Byd Snwcer eto yn y flwyddyn 2000 a 2002.
Gemau terfynol yn ei yrfa
golyguGemau terfynol safleol: 4 (2 deitl, 2 ail)
golyguAllwedd |
Pencampwriaeth y Byd (0–1) |
Pencampwriaeth y DU (1–0) |
Other (1–1) |
Canlyniad | Rhif. | Blwyddyn | Pencampwriaeth | Gwrthwynebydd yn y ffeinal | Sgôr |
---|---|---|---|---|---|
Ail | 1. | 1977 | Pot Black | Perrie Mans | 0–1 |
Enillydd | 1. | 1977 | Y Meistri | Ray Reardon | 7–6 |
Ail | 2. | 1977 | Pencampwriaeth Broffesiynol Cymru | Ray Reardon | 8–12 |
Ail | 3. | 1977 | Pencampwriaeth y Deyrnas Unedig | Patsy Fagan | 9–12 |
Ail | 4. | 1978 | Y Meistri Iwerddon | John Spencer | 3–5 |
Enillydd | 2. | 1978 | Pot Black | Graham Miles | 2–1 |
Enillydd | 3. | 1978 | Golden Masters | Ray Reardon | 4–2 |
Enillydd | 4. | 1978 | Pencampwriaeth y Deyrnas Unedig | David Taylor | 15–9 |
Ail | 5. | 1979 | Pot Black (2) | Ray Reardon | 1–2 |
Enillydd | 5. | 1979 | Y Meistri Iwerddon | Ray Reardon | 6–5 |
Enillydd | 6. | 1979 | Pontins Professional | Graham Miles | 8–4 |
Enillydd | 7. | 1980 | Pencampwriaeth Broffesiynol Cymru | Ray Reardon | 9–6 |
Ail | 6. | 1980 | Y Meistri Iwerddon | Terry Griffiths | 9–10 |
Enillydd | 8. | 1980 | Pencampwr y Pencampwyr | John Virgo | 10–8 |
Enillydd | 9. | 1982 | Pencampwriaeth Broffesiynol Cymru (2) | Terry Griffiths | 9–8 |
Ail | 7. | 1983 | Pencampwriaeth Broffesiynol Cymru (2) | Ray Reardon | 1–9 |
Enillydd | 10. | 1983 | Pontins Professional (2) | Ray Reardon | 9–7 |
Enillydd | 11. | 1983 | Y Meistri Hong Kong | Terry Griffiths | 4–3 |
Enillydd | 12. | 1984 | Pencampwriaeth Broffesiynol Cymru (3) | Cliff Wilson | 9–3 |
Ail | 8. | 1984 | Y Meistri Hong Kong | Steve Davis | 2–4 |
Ail | 9. | 1985 | Y Meistri | Cliff Thorburn | 6–9 |
Ail | 10. | 1985 | Pencampwriaeth Broffesiynol Cymru (3) | Terry Griffiths | 4–9 |
Enillydd | 13. | 1985 | Pot Black (2) | Jimmy White | 2–0 |
Ail | 11. | 1986 | Pencampwriaeth Broffesiynol Cymru (4) | Terry Griffiths | 3–9 |
Enillydd | 14. | 1987 | Pencampwriaeth Broffesiynol Cymru (4) | Steve Newbury | 9–7 |
Enillydd | 15. | 1989 | Pencampwriaeth Broffesiynol Cymru (5) | Terry Griffiths | 9–6 |
Ail | 12. | 1990 | Pencampwriaeth Broffesiynol Cymru (5) | Darren Morgan | 7–9 |
Gemau terfynol Pro-am: 3 (2 deitl, 1 ail)
golyguCanlyniad | Rhif. | Blwyddyn | Pencampwriaeth | Gwrthwynebydd yn y ffeinal | Sgôr |
---|---|---|---|---|---|
Enillydd | 1. | 1974 | Pontins Spring Open | John Spencer | 7–4 |
Enillydd | 2. | 1976 | Pontins Spring Open (2) | Lance Pibworth | 7–1 |
Ail | 1. | 1984 | Pontins Spring Open | Neal Foulds | 4–7 |
Gemau terfynol tîm: 4 (2 deitl, 2 ail)
golyguCanlyniad | Rhif. | Blwyddyn | Pencampwriaeth | Tîm/partner | Gwrthwynebwyr yn y ffeinal | Sgôr |
---|---|---|---|---|---|---|
Enillydd | 1. | 1979 | World Challenge Cup | Cymru | Lloegr | 14–3 |
Enillydd | 1. | 1980 | World Challenge Cup (2) | Cymru | Canada | 8–5 |
Ail | 1. | 1981 | World Team Classic | Cymru | Lloegr | 3–4 |
Ail | 2. | 1983 | World Team Classic (2) | Cymru | Lloegr | 2–4 |
Gemau terfynol amatur: 4 (3 teitl, 1 ail)
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 Doug Mountjoy, un o oreuon snwcer Cymru, wedi marw , BBC Cymru Fyw, 14 Chwefror 2021.
- ↑ Frank Callans Snooker Clinic book authors quote