Drosgl
Mynydd yn y Carneddau yn Eryri yw Drosgl. Saif ar y grib sy'n arwain tua'r gogledd-orllewin oddi ar brif grib y Carneddau ger Garnedd Uchaf.
![]() | |
Math | mynydd ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Gwlad | ![]() |
Uwch y môr | 757 metr ![]() |
Cyfesurynnau | 53.183°N 3.9663°W ![]() |
Manylion | |
Amlygrwydd | 37 metr ![]() |
Rhiant gopa | Foel-fras ![]() |
![]() | |
Gellir ei ddringo yn weddol hawdd o bentref Bethesda, gan ddringo i'r copa llai Gyrn Wigau gyntaf, yna i Drosgl. Ceir carnedd sylweddol o faint ac un arall dipyn yn llai ar y copa, y ddwy yn dyddio o Oes yr Efydd. Ceir carnedd arall yma sy'n fwy diweddar.