Carnedd Gwenllian

mynydd (925m) yng Ngwynedd
(Ailgyfeiriad o Garnedd Uchaf)

Copa ar brif grib y Carneddau yn Eryri yw Carnedd Gwenllian (neu hyd at 2009: Y Garnedd Uchaf).

Carnedd Gwenllian
Mathmynydd, copa Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirConwy Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr926 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.18298°N 3.96634°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH6870166905 Edit this on Wikidata
Manylion
Amlygrwydd33 metr Edit this on Wikidata
Rhiant gopaFoel-fras Edit this on Wikidata
Cadwyn fynyddY Carneddau Edit this on Wikidata
Map

Daearyddiaeth golygu

Saif ar y ffin rhwng siroedd Conwy a Gwynedd. Saif ar y grib rhwng Foel Fras a Foel Grach. Wedi cyrraedd y grib, nid yw dringo Garnedd Uchaf ei hun yn serth.

Uchder golygu

Nid yw'r copa yma'n cael ei gynnwys yn yr "14 copa" traddodiadol o gopaon dros 3,000 o droedfeddi o uchder, gan nad yw ond fymryn yn uwch na'r brif grib ei hyn, ond hi yw'r pymthegfed copa sydd fymryn dros 3,000 troedfedd.

Newid enw golygu

Ar y 1af o Fai 2009 cyhoeddwyd y byddai'r enw'n cael ei newid yn swyddogol o'r Garnedd Uchaf i Garnedd Gwenllian i gofio'r Dywysoges Gwenllian, Tywysoges Cymru, merch Llywelyn Ein Llyw Olaf a'i wraig Elinor (Elen) a goffeir eisoes (yn yr enwau Carnedd Llywelyn a'r Elen). Brawd Llywelyn oedd Dafydd a cheir Carnedd Dafydd i'w goffau.

Bydd yr enw'n cael ei argraffu, gyda'r hen enw hefyd oddi tano rhwng cromfachau, ar fapiau OS newydd o Fedi 2009 ymlaen.[1][2]

Cred rhai, fodd bynnag, mai ar ôl Llywelyn Fawr y galwyd Carnedd Llywelyn a Charnedd Dafydd ar ôl Dafydd ap Llywelyn, a bod hefyd gan Yr Elen darddiad heb unhryw gysylltiad ag Elinor - gweler yn yr erthygl honno am fanylion.

Cyfeiriadau golygu


Y pedwar copa ar ddeg
Yr Wyddfa a'i chriw:

Yr Wyddfa (1085m)  · Garnedd Ugain (1065m)  · Crib Goch (923m)

Y Glyderau:

Elidir Fawr (924m)  · Y Garn (947m)  · Glyder Fawr (999m)  · Glyder Fach (994m)  · Tryfan (915m)

Y Carneddau:

Pen yr Ole Wen (978m)  · Carnedd Dafydd (1044m)  · Carnedd Llywelyn (1064m)  · Yr Elen (962m)  · Foel Grach (976m)  · Carnedd Gwenllian (Garnedd Uchaf) (926m)  · Foel-fras (942m)