Foel-fras
Mynydd yn y Carneddau yn Eryri yw Foel-fras neu Foel Fras.
![]() | |
Math | mynydd, copa ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Conwy ![]() |
Gwlad | ![]() |
Uwch y môr | 944 metr ![]() |
Cyfesurynnau | 53.194°N 3.9533°W ![]() |
Cod OS | SH6961668124 ![]() |
Manylion | |
Amlygrwydd | 62.8 metr ![]() |
Rhiant gopa | Carnedd Llywelyn ![]() |
Cadwyn fynydd | Y Carneddau ![]() |
![]() | |
Daearyddiaeth ac uchderGolygu
Saif ar brif grib y Carneddau rhwng Foel Grach a Drum, uwchben pentref Abergwyngregyn, ar y ffin sirol rhwng Sir Conwy a Gwynedd; cyfeiriad grid SH696681. Uchder cymharol, neu ”amlygrwydd” y copa, ydy 883 metr: dyma'r uchder mae'r copa'n codi uwchlaw'r mynydd agosaf.
Foel-fras yw'r pellaf i'r gogledd o'r 14 copa yn Eryri sydd dros 3,000 o droedfeddi o uchder (mae Drum ychydig oddi tan yr uchder yma). I'r de iddo mae'r llechweddau yn arwain i lawr at Lyn Dulyn, tra mae Llyn Anafon i'r gogledd o'r copa.
LlwybrauGolygu
Gellir dringo'r mynydd trwy ddilyn y ffordd fychan o Abergwyngregyn sy'n arwain heibio'r maes parcio ar gyfer Rhaeadr Fawr ac yn diweddu mewn maes parcio bychan. Oddi yma gellir cymryd y llwybr i'r chewith o'r maes parcio a dilyn trac amlwg, gan droi i'r dde lle mae arwyddbost yn cyfeirio at Drum. Wedi cyrraedd copa Drum gellir dilyn y grib i gopa Foel-fras. Dewis arall yw ymuno a'r ffordd drol i Lyn Anafon, ac yna dringo i fyny i'r grib rhwng Drum a Foel-fras.
Bywyd gwylltGolygu
Mae'r ardal o gwmpas y copa yn un o'r lleoedd gorau yng Nghymru i weld Hutan y Mynydd pan mae'n symud tua'r gogledd tua diwedd Ebrill a dechrau Mai.
Gweler hefydGolygu
Dolennau allanolGolygu
CyfeiriadauGolygu
Y pedwar copa ar ddeg |
---|
Yr Wyddfa (1085m) | Garnedd Ugain (1065m) | Crib Goch (923m) |
Y Glyderau: Elidir Fawr (924m) | Y Garn (947m) | Glyder Fawr (999m) | Glyder Fach (994m) | Tryfan (915m) | |
Y Carneddau: Pen yr Ole Wen (978m) | Carnedd Dafydd (1044m) | Carnedd Llywelyn (1064m) | Yr Elen (962m) | Foel Grach (976m) | Garnedd Uchaf (926m) | Foel-fras (942m) |