Drum
Y Drum yw'r mynydd sydd bellaf i'r gogledd-ddwyrain ar brif grib y Carneddau yn Eryri. Saif 2 km i'r gogledd-ddwyrain o Foel-fras yn Sir Conwy. Ymhellach i'r gogledd mae Tal y Fan, sy'n cael ei wahanu oddi wrth y brif grib gan Fwlch y Ddeufaen.
![]() | |
Math | mynydd ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Conwy ![]() |
Gwlad | ![]() |
Uwch y môr | 770 metr ![]() |
Cyfesurynnau | 53.2068°N 3.936°W ![]() |
Amlygrwydd | 45 metr ![]() |
Cadwyn fynydd | Eryri ![]() |
![]() | |
Mae Afon Tafolog yn tarddu ar ei lechweddau dwyreiniol, ac yn ymuno ag Afon Roe sy'n llifo trwy bentref Rowen cyn ymuno ag Afon Conwy. I'r de-orllewin mae Llyn Anafon. Gellir ei ddringo yn weddol hawdd ar hyd ffordd drol ar hyd y llechweddau gogleddol sydd bron yn cyrraedd y copa; mae hon yn fforchio oddi ar y trac rhwng Bwlch y Ddeufaen ac Abergwyngregyn.
Ceir carnedd sylweddol o faint, Carnedd Penyborth-goch, ar y copa. Rhyw 1 km i'r gogledd o'r copa mae carnedd arall, Carnedd y Ddelw, lle dywedir i groes neu ddelw aur gael ei darganfod yn 1812.