Dulog (albwm)
Albwm gan y ddeuawd cerddoriaeth acwstig Cymraeg Brigyn yw Dulog. Rhyddhawyd yr albwm yn Rhagfyr 2015.
Dulog | ||
---|---|---|
Albwm stiwdio gan Brigyn | ||
Rhyddhawyd | Rhagfyr 2015 |
Record arbennig i ddathlu 150 o flynyddoedd ers sefydlu’r Wladfa yw Dulog, â’r brodyr Ynyr ac Eurig Roberts wedi bod yn cydweithio â dau frawd o Batagonia, Alejandro a Leonardo Jones o Drevelin ar ei chreu.
Dewiswyd Dulog yn un o ddeg albwm gorau 2015 gan ddarllenwyr cylchgrawn Y Selar.[1]
Canmoliaeth
golyguFy hoff drac...ydi ‘Fan Hyn (Aquí)’. Dyma gân sy’n defnyddio Cymraeg a Sbaeneg, ac er yn gwbl Sbaeneg ei naws mae’r alaw yn medru swnio mor gynhenid o Gymreig
—Elain Llwyd, Y Selar