Dumbarton
Tref yng Ngorllewin Swydd Dunbarton, yr Alban, yw Dumbarton[1] (Gaeleg yr Alban: Dùn Breatann, "Caer y Brythoniaid";[2] Sgoteg: Dumbartoun neu Dumbertan).[3] Fe' lleolir ar lan ogleddol Afon Clud, tua 13 milltir (21 km) o ganol dinas Glasgow.
![]() | |
Math | tref, large burgh ![]() |
---|---|
Poblogaeth | 20,560 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Gorllewin Swydd Dunbarton ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 55.9486°N 4.5472°W ![]() |
Cod SYG | S20000466, S19000557 ![]() |
Cod OS | NS397759 ![]() |
Cod post | G82 ![]() |
![]() | |
Hi yw canolfan weinyddol Gorllewin Swydd Dunbarton. Roedd y boblogaeth yn 2001 yn 20,550. Ar un adeg roedd adeiladu llongau yn ddiwydiant pwysig iawn yma; yn Dumbarton er enghraifft yr adeiladwyd y Cutty Sark, sydd yn awr yn Greenwich, Llundain. Yn ddiweddarach daeth cynhyrchu chwisgi yn bwysig. Erbyn hyn, mae llawer o'r boblogaeth yn gweithio yn Glasgow yr ochr draw i'r afon.
Nodwedd fwyaf trawiadol y dref yw Castell Dumbarton, ar Graig Dumbarton uwchben y dref. Yma yn y cyfnod wedi ymadawiad y Rhufeiniaid yr oedd caer Alt Clut (Allt Clud mewn Cymraeg Diweddar), prif lys teyrnas Frythonig Ystrad Clud yn yr Hen Ogledd.
Adeiladau a chofadeiladauGolygu
- Castell Dumbarton
- Dumbarton Rock
- Tŷ Overtoun
EnwogionGolygu
- David Byrne (g. 1952), cerddor
CyfeiriadauGolygu
- ↑ British Place Names; adalwyd 9 Hydref 2019
- ↑ Gwefan Ainmean-Àite na h-Alba; adalwyd 9 Hydref 2019
- ↑ "Names in Scots", Centre for the Scots Leid; adalwyd 14 Ebrill 2022